Two people stood on wildlife pond viewing platform pointing towards a field.
Red illustration of a flower. The flowers resemble gears.

Datgloi cyllid ar gyfer mannau gwyrdd a glas

12-02-2025

Dechreuwch arni gyda...

Astudiaeth Achos

Canllaw

Darganfyddwch ffyrdd o ddatblygu model ariannu mwy amrywiol ar gyfer mannau naturiol yn eich tref neu ddinas, i gefnogi lles, adferiad byd natur a thwf economaidd.
Adfer natur - Bancio cynefinoedd

©Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / James Dobson

Helpu byd natur i dalu ei ffordd

Gall yr arian sydd ei angen er mwyn creu a gofalu am drefi a dinasoedd sy’n gyfoethog o ran natur ac yn wydn o ran yr hinsawdd deimlo fel rhwystr. Nid yw cynghorau lleol a grantiau yn gallu talu’r holl gostau. Ond mae yna ddatrysiadau i’w cael sy’n gallu helpu i sicrhau bod gan bawb fan gwyrdd yn agos at eu cartref.

Mae trefi a dinasoedd ar draws y DU yn profi ffyrdd newydd o amrywio ac arloesi eu harian ar gyfer seilwaith gwyrdd a glas trefol. O ddefnyddio gofynion gorfodol megis cynnydd net bioamrywiaeth (BNG) yn Lloegr (darllenwch fwy am BNG), i ennill dealltwriaeth fwy soffistigedig o’r buddion y gall natur eu darparu i le a pha sefydliadau sy’n agored i fuddsoddi ynddynt.

Y peth allweddol yw cysylltu’r buddion a’r deilliannau gyda’ch tirwedd strategol ehangach, a datblygu’r gallu i brofi’r dulliau sy’n cefnogi hyn orau.

Ac nid mater o arian yn unig yw hyn. Mae mannau gwyrdd a glas iachach yn golygu cymunedau iachach, lle gall pawb deimlo’r buddion.

Yn yr erthygl hon, mae’r tîm yng Nghyngor Dinas Plymouth yn egluro sut maent yn cyflawni hyn wrth iddynt ddathlu carreg filltir bwysig yn eu taith tuag at fodel cyllid cyfunol newydd ar gyfer byd natur.

Mae yna hefyd offer a chanllawiau wedi’u dylunio i’ch helpu i ddechrau ar eich taith cyllid eich hun.

Cyngor Dinas Plymouth: ein taith bancio cynefinoedd

“Fe wnaethon brofi llawer o ddryswch a chymhlethdod...does dim angen i neb arall wneud hynny!” - Kat Deeney, Pennaeth Cynllunio Amgylcheddol yng Nghyngor Dinas Plymouth.

Darganfyddwch sut mae Plymouth yn ailddosbarthu arian preifat er budd cyhoeddus, fel y cyngor cyntaf yn y DU i sefydlu banc cynefin. Mae’r fideo hwn yn egluro sut maent yn diogelu buddsoddiad newydd ym mannau gwyrdd a glas y ddinas drwy gwmni sy’n eiddo i’r cyngor o’r enw Ocean City Nature. Yn eu tro, bydd yr unedau bioamrywiaeth wedi’u ‘bancio’ maent wedi’u creu yn galluogi datblygwyr i gyflawni gofynion BNG gorfodol mewn ffordd sydd o fudd i bobl a byd natur yn Plymouth.

Plymouth habitat bank

Deall bancio cynefinoedd

Mae awdurdodau lleol yn Lloegr yn dechrau defnyddio bancio cynefinoedd fel ffordd arloesol o greu cyllid newydd y gellir ei ddefnyddio i adfer byd natur a bod o fudd i bobl a lleoedd. Dyma sut mae’n gweithio mewn pedwar cam.

1

Sicrhau buddsoddiad

2

Dod o hyd i brynwr

3

Ad-dalu'r buddsoddiad

4

Sicrhau'r safle

Canllaw dechrau arni ar gyfer bancio cynefinoedd

Dysgwch sut i ddechrau bancio cynefinoedd yn eich cymuned, o adeiladu eich tîm i sefydlu cyfrwng bancio cynefinoedd.

Mae fel arfer yn cymryd tua 18 mis i sefydlu banc cynefin. Er bod yna lawer o gamau a gallai rhai deimlo’n gymhleth, mae’n bosibl cyflawni hyn gydag amser ac adnoddau pwrpasol. Rydym wedi nodi’r camau mewn trefn resymegol, ond nid yw bancio cynefinoedd yn broses linellol. Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd yn ôl ac ailedrych ar rai o’r camau ar hyd y ffordd.

Mae bancio cynefinoedd yn darparu ffordd i dirfeddianwyr – yn yr achos hwn awdurdodau lleol – greu neu adfer cynefin ymlaen llaw a “bancio” yr unedau bioamrywiaeth a ddaw o hynny.

Gall yr unedau hyn gael eu prynu wedyn gan ddatblygwyr sy’n ceisio cydymffurfio â’r cynnydd net gorfodol o 10%. Mae gwerthu unedau bioamrywiaeth yn golygu bod y buddsoddwr a ddarparodd y cyllid yn cael eu buddsoddiad cychwynnol yn ôl gyda llog a gwybodaeth am effaith amgylcheddol eu harian.

Mae gwerthu unedau bioamrywiaeth hefyd yn darparu ffrwd incwm hanfodol i awdurdodau lleol gynnal y cynefin sydd newydd ei adfer neu ei greu am o leiaf 30 mlynedd, ac o bosibl hyd yn oed mwy.

Bydd angen pobl arnoch a all neilltuo amser yn benodol ar gyfer y gwaith hwn. Bydd angen iddynt fod yn fedrus wrth gyflwyno newid, gweithio ar draws adrannau ac ymgysylltu â phartneriaid gan gynnwys Swyddogion Gweithredol a swyddogion etholedig. Mae’n waith arloesol, felly bydd y tîm yn dysgu cysyniadau newydd, rhywfaint o jargon ariannol ac yn gyfforddus â pheidio â chael yr holl atebion ymlaen llaw.

Bydd eich tîm mewnol yn debygol o gynnwys cynrychiolwyr o feysydd cyllid, cyfreithiol, tai, cynllunio, strategol a gweithrediadau ac ystadau gwyrdd. Gallai’r gwaith hwn lywio canllawiau cynllunio a gyhoeddir i ddatblygwyr a chysylltu â Strategaethau Adfer Natur Lleol, felly mae deall y cyd-destun hwn yn bwysig.

Dylai’r tîm wybod sut mae tir yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd a gallu deall y cyfle am newid. Bydd sgiliau rheoli cadwraeth a gwybodaeth am asesiadau ecolegol yn golygu y gallant brisio gwaith adfer cynefinoedd, gwelliannau i fynediad cyhoeddus a chynnal a chadw yn gywir.

Bydd eich tîm prosiect craidd eisiau dod ag ymgynghorwyr allanol arbenigol i mewn hefyd. Bydd y rhain yn cynnwys sefydliad cyllid allanol priodol sydd â’r sgiliau a’r cliriad rheoleiddiol angenrheidiol. Byddant yn helpu i ddatblygu’r model ariannol i reoli risg ac yn eich helpu i amlinellu eich achos busnes, sefydlu’r cyfrwng ei hun, a chael mynediad at fuddsoddiad.

Bydd angen cymorth cyfreithiol arnoch hefyd i helpu i sefydlu’r banc cynefin pan fyddwch yn barod i wneud hynny.

Mae treialu safleoedd yn gyflym yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth o gyflenwad a galw am unedau bioamrywiaeth.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y tir rydych chi’n gweithio gydag ef. Nid oes angen manylion manwl arnoch yn ystod y cam hwn, dim ond gwybodaeth am ble mae safleoedd natur allweddol, eu maint, unrhyw ddynodiadau, rhywfaint o wybodaeth am gynefinoedd ac amcanion rheoli sylfaenol.

Wrth ddewis safleoedd peilot ystyriwch faint, nifer, arwyddocâd, mynediad cyhoeddus, a phartneriaid. Mae buddsoddiad preifat yn haws i’w ddenu ar raddfa fwy. Anelwch at o leiaf 50 hectar i gyd a dim llai na 10ha fesul safle. Gallai grŵp o safleoedd peilot fod rhwng 20ha a 100ha. Efallai y byddwch am nodi mwy o safleoedd peilot nag y credwch sydd eu hangen arnoch a modelu’r costau ar eu cyfer, rhag ofn nad yw ambell un yn hyfyw.

Os yw safle o fewn eich Strategaeth Adfer Natur Lleol, mae effaith lluosydd ym Metrig DEFRA ar gyfer cyfrifo unedau bioamrywiaeth, sy’n golygu y bydd yn cynhyrchu 15% yn fwy o unedau bioamrywiaeth.

Nid oes angen i chi fod wedi nodi’r holl safleoedd yn eich Strategaeth Adfer Natur Lleol i ddewis safleoedd peilot, ond os oes gennych rai neu os gallwch wneud hyn ar yr un pryd, mae’n syniad da.

Mesurir cynnydd net bioamrywiaeth mewn unedau. Bydd llinell sylfaen yn dweud wrthych faint o unedau sydd gennych ar y safle ar hyn o bryd, at ddibenion cymharu yn ystod ac ar ôl adfer. Er mwyn cyfrifo eich llinellau sylfaen, mae angen asesiad ecolegol ar gyfer pob safle sy’n casglu’r data perthnasol. Yna gallwch gynnig sut i adfer y cynefin a defnyddio metrig DEFRA i gyfrifo’r unedau – mae Asesiadau UKHab yn mapio’n uniongyrchol ar fetrig DEFRA.

Gallwch ddewis cael gwneud eich asesiadau ecolegol yn annibynnol, gan ddarparu sicrwydd ychwanegol i’ch buddsoddwyr yn y dyfodol. Gallwch hefyd ddewis cynnal asesiadau cynefinoedd ar draws pob un neu lawer o’ch safleoedd posibl (nid dim ond safleoedd peilot).

Bydd hyn yn eich galluogi i gael trosolwg o unedau posibl sydd ar gael ar draws y ddinas ac felly amcangyfrif refeniw ar raddfa dinas dros 30 mlynedd.

Fel rhan o’ch gwaith paratoi, mae angen i chi benderfynu sut y gall eich banc cynefin helpu i sicrhau’r buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd mwyaf posibl i’ch dinas neu dref, gan gadw refeniw a buddion yn lleol.

Bydd trafodaeth gynnar ynghylch egwyddorion gwrthbwyso allweddol yn eich helpu i gynnwys yr elfennau sydd bwysicaf i chi.

Edrychwch ar ein hegwyddorion gwrthbwyso awgrymedig drwy glicio ar y botwm ar y chwith.

Eich cyflenwad yw’r gwahaniaeth rhwng yr unedau llinell sylfaen a nifer yr unedau y bydd safle yn eu cynhyrchu ar ôl i gynefin gael ei greu neu ei adfer.

Fel arfer gelwir y rhan hon o’r broses yn ‘asesiad cyflenwad’ oherwydd eich bod yn cyfrifo faint o welliant (wedi’i fesur mewn unedau) y gellir ei werthu i ddatblygwyr. Bydd arbenigwyr cadwraeth yn cynghori pa adferiad neu greadigaeth a allai fod yn bosibl o’ch asesiadau llinell sylfaen.

Yn 2021, awgrymodd adroddiad gan DEFRA y gallai pris y farchnad fesul uned bioamrywiaeth fod rhwng £20,000 a £25,000. Bydd eich partneriaid ariannol allanol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am brisiau’r farchnad.

Gellir gwerthu unedau bioamrywiaeth y tu allan i’r ardal leol, er bod datblygwyr yn cael eu cymell i brynu yn eu hardal leol.

Gall deall targedau twf lefel uchaf ar gyfer seilwaith, trafnidiaeth, a thai gynnig sicrwydd bod digon o alw yn yr arfaeth. Yn enwedig ar gyfer lleoedd sy’n ceisio bodloni’r holl alw lleol, a pheidio â gorgyflenwi.

Nodwch os oes gan gynllun datblygu ganiatâd eisoes, efallai na fydd gofyn iddo ddarparu cynnydd net bioamrywiaeth.

Cofiwch hefyd eich bod yn edrych ar alw tymor hwy gan fod unedau bioamrywiaeth yn cael eu gwerthu unrhyw bryd o’r drydedd flwyddyn i tua’r bymthegfed flwyddyn.

Y peth gorau yw gwneud y modelu hwn gyda phartner ariannol masnachol allanol profiadol. Bydd arbenigedd ecolegol eisoes wedi penderfynu pa ymyriadau y dylid eu gwneud ar bob safle. Nawr mae angen i chi wybod beth allai’r rhain ei gostio, gan gynnwys adfer, cynnal a chadw a chost darparu mynediad cyhoeddus.

Rydym yn awgrymu dechrau’n uchel, gan gynnwys yr holl gostau sy’n gysylltiedig â’ch blaenoriaethau sefydledig. Gallwch edrych ar leihau’r costau hyn yn ddiweddarach os oes angen.

Mae hwn yn ddadansoddiad cadarn ac yn fodel gweithio y dylid ei ddiweddaru’n barhaus i sicrhau cywirdeb. Mae’n cynnig data i wneud penderfyniadau ynghylch pa safleoedd sy’n hyfyw, yr amser gorau i werthu unedau bioamrywiaeth ac i brofi egwyddorion a syniadau. Er enghraifft, gallai eich helpu i ddeall sawl blwyddyn y tu hwnt i’r isafswm tymor o 30 mlynedd y gallai unrhyw waddol dalu am gostau cynnal a chadw.

Rheolir risg yn rhannol drwy fetrig DEFRA sy’n cynnwys lluosydd anhawster ar gyfer cynefinoedd sy’n anoddach i’w hadfer, a ffactor disgownt ar gyfer gwerthu unedau cyn gwirio bod y cynefin arfaethedig wedi’i gyflawni.

Bydd eich partner ariannol allanol yn cefnogi rheoli risg ymhellach drwy fodelu i gyfrif am newidiadau ym mhrisiau’r farchnad, addasiadau ar gyfer chwyddiant, costau gweithredu ar gyfer y banc cynefin a chael clustog ar gyfer newidiadau yn y galw.

Dylai’r achos busnes fod yn glir ac yn gryno, gan ddefnyddio templedi a phrotocolau cyfarwydd ar gyfer penderfynu mewnol, megis cyflwyno opsiynau.

Canolbwyntiwch ar y penderfyniadau y mae angen eu gwneud i sicrhau mandad i symud eich gwaith yn ei flaen yn hytrach na manylion technegol – gallwch gynnwys dogfennau ategol sy’n cwmpasu unrhyw lenyddiaeth dechnegol neu gefndirol.

Wrth i chi symud eich achos busnes yn ei flaen, gall fod yn ddefnyddiol os yw eich partner ariannol allanol ar gael i ateb cwestiynau technegol neu hyd yn oed gyd-gyflwyno.

Dylai eich partner cyllid allanol eich helpu gyda’r broses o ddylunio’r strwythur cyfalaf a chorfforaethol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod arian yn llifo tuag at eich buddion blaenoriaeth. Er enghraifft, cyllid ar gyfer cynnal a chadw hirdymor.

Bydd angen i chi hefyd geisio cyngor allanol ar lywodraethu a pha strwythur cyfreithiol (e.e. cwmni traddodiadol neu elusen) sydd orau i chi ac unrhyw gontractau y gallai fod angen eu drafftio.

Ar ôl ei sefydlu, bydd angen gwasanaethau cyfrifeg ac yswiriant a chyfrif banc ar y banc cynefin. Gall eich partner cyllid allanol wedyn ddenu buddsoddwyr gan ddefnyddio deunyddiau sy’n cydymffurfio â rheoliadau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

Byddant yn negodi ac yn cwblhau’r fargen fuddsoddi. Bydd y banc cynefin yn cofrestru unrhyw werthiant o unedau bioamrywiaeth. Bydd yn monitro, adrodd a gwirio cydymffurfiaeth â’r cynllun rheoli cynefinoedd, gan gyflwyno data i’r corff perthnasol.

Amser penderfynu

Mae'r adnodd hwn wedi taflu goleuni ar fancio cynefinoedd, ond mae yna lawer o wahanol fathau o gyllid ar gyfer seilwaith gwyrdd trefol. Mae'n bwysig adolygu amrywiaeth o opsiynau a dewis y rhai gorau ar gyfer eich lle chi.

Mae’r prosiect Cyflymydd Coedwigoedd Trefol wedi datblygu pecyn cymorth i helpu awdurdodau lleol i ystyried opsiynau cyllid preifat ar gyfer eu gwaith gwyrdd trefol. Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar goedwigaeth drefol, ond mae’r pecyn cymorth yn cwmpasu’r camau sydd eu hangen i nodi’r buddion posibl – neu wasanaethau ecosystem – mannau gwyrdd neu las ehangach, a deall ystyriaethau pwysig wrth feintioli a gwerthu’r rhain i brynwyr.

Mae’r camau wedi’u crynhoi mewn Siart Llif Cyllid Gwyrdd, sy’n cynnwys argymhellion ar gyfer prosesau casglu data a’r arbenigedd y gallech fod angen galw arno am gymorth.

A person leaning over to plant a blossom tree.

©Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Trevor Ray Hart

Mwy o help a chefnogaeth

Cyfres gweminarau bancio cynefinoedd gyda Chyngor Dinas Plymouth

Gweminar 1: cynhyrchu difidendau i bobl, lle a byd natur

Mae’r Cynghorydd Tom Briars-Delve a chydweithwyr o Gyngor Dinas Plymouth yn trafod beth wnaeth eu harwain at fynd ar drywydd modelau ariannol newydd, gan ddechrau gyda bancio cynefinoedd ac ehangu i atebion eraill sy’n seiliedig ar natur. Clywch am y cyfleoedd y mae hyn yn eu creu i drigolion, bywyd gwyllt a’r blaned.

Close up of a young beaver kit holding a small stick to its mouth in a river.

Gweminar 2: mwy na dim ond banc cynefin

Mae Cyngor Dinas Plymouth a’u partneriaid yn rhannu eu model buddsoddi bancio cynefinoedd ac yn trafod sut i greu banc cynefin nid er elw yng nghyd-destun awdurdod lleol.

The bottom half of two people's legs and a spade on a viaduct.

Cyflwyniad i gynnydd net bioamrywiaeth

Trosolwg byr o'r pwnc gan Natural England. Ymgyfarwyddwch ag iaith a hanfodion y pwnc.

Gwyliwch y fideo
Gwyliwch y fideo

Egwyddorion gwrthbwyso bioamrywiaeth

Egwyddorion awgrymedig i helpu i greu unedau BNG o ansawdd uchel am bris cystadleuol. Mae'r egwyddorion hyn wedi'u datblygu a'u profi ar brosiectau BNG oddi ar y safle a phrosiectau bancio cynefinoedd.

Darllenwch yr egwyddorion
Darllenwch yr egwyddorion

Green Finance Institute

Mae'r Green Finance Institute yn profi, arddangos, ac yn graddio'r atebion ariannol sydd eu hangen i gyflymu'r broses o drawsnewid i economi sero-net a natur-bositif.

Ewch i'r wefan
Ewch i'r wefan

Thames21

Thames21 yw'r llais ar gyfer dyfrffyrdd Llundain, gan weithio gyda chymunedau i wella afonydd a chamlesi i bobl a bywyd gwyllt. Dysgwch fwy am eu gwaith i ddarparu BNG cyrsiau dŵr.

Mwy am BNG mannau glas
Mwy am BNG mannau glas

UK100

Rhwydwaith o arweinyddion lleol yw UK100 sydd wedi addo arwain trawsnewidiad cyflym i sero-net gydag aer glân yn eu cymunedau.

Cymerwch olwg ar yr Hwb Gwybodaeth
Cymerwch olwg ar yr Hwb Gwybodaeth

Y Comisiwn Coedwigaeth

Mae'r Comisiwn Coedwigaeth yn cynyddu gwerth coetiroedd i gymdeithas a'r amgylchedd.

Adnoddau dysgu coedwigaeth
Adnoddau dysgu coedwigaeth

Cyflymydd Coedwigoedd Trefol

Canllawiau, pecynnau cymorth ac astudiaethau achos i gynyddu gorchudd canopi coed mewn trefi neu ddinasoedd a dod â buddion coed i bawb. Datblygwyd gan y Community Forest Trust, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a'r Woodland Trust.

Ewch i'r wefan
Ewch i'r wefan

Mae'r erthygl rydych chi newydd ei darllen yn rhan o gyfres a grëwyd gan y Future Parks Accelerator

Roedd Future Parks Accelerator (FPA) yn gydweithrediad rhwng Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r Adran Codi'r Gwastad, Tai a Chymunedau (DLUHC).

Dewiswyd naw ardal ar draws y DU i fod yn rhan o’r rhaglen arloesol hon i adeiladu dyfodol cynaliadwy i barciau trefol a mannau gwyrdd.

Profodd FPA fod gan natur rôl hanfodol i’w chwarae mewn trefi a dinasoedd, gan helpu i wella iechyd a llesiant, lliniaru effaith newid hinsawdd, gwella bioamrywiaeth a thyfu’r economi werdd.

Gosododd y lleoedd arloesol hyn y sylfeini i filiynau mwy o bobl fwynhau amser ym myd natur yn agos i’w cartrefi trwy brosiectau yn y dyfodol fel Trefi a Dinasoedd Natur.