Two people walking their dogs along a path in a park next to a pond.
Red illustration of a robin resembling a tennis ball.

Meithrin cymuned o hyrwyddwyr coedwigoedd trefol 

Astudiaeth Achos Canllaw Dechreuwch arni gyda... - 24-06-2025

Ysbrydoliaeth, arweiniad ac adnoddau er mwyn helpu awdurdodau lleol a sefydliadau cymunedol weithio ochr yn ochr a chreu coedwigoedd trefol iach ac amrywiol i bawb.

Adfer natur - Coedwigaeth a choed

Meithrin cydweithrediadau cymunedol cryf

Mae’r cysylltiad rhwng pobl a choed wedi’i wreiddio’n ddwfn, gyda hanes a chyd-ddibyniaeth sydd wedi esblygu dros filoedd o flynyddoedd.  

Mae ein coedwigoedd trefol yn helpu pobl i fyw bywydau gwell gyda buddion cymdeithasoleconomaidd ac amgylcheddol gan roi llefydd gwyrdd i ni gerdded, chwarae a theimlo mwy o gysylltiad gyda byd natur.

A phan rydym yn sefydlu coed trefol yn agos at ein cartrefi, busnesau a seilwaith sy’n ehangu, gallwn feithrin y buddion hyn lle mae pobl eu hangen fwyaf.

Pam rydym ni angen ein gilydd

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod coed trefol aeddfed yn darparu mwy o fuddion na choed llai. Maent yn well am wella ansawdd aer, oeri dinasoedd a gweithredu fel man cysgodol arbennig o dda ar gyfer bywyd gwyllt a phobl. 

Ond gall hefyd fod yn heriol i awdurdodau lleol sy’n ceisio blaenoriaethu cyllidebau, capasiti a gofynion ar wasanaethau er mwyn gofalu am y cewri gwyrdd yma wrth iddynt dyfu. Ac mae  tystiolaeth yn awgrymu bod coed dinesig mwy yn cael eu cyfnewid am rywogaethau llai.

Mae’r adnodd hwn wedi’i fwriadu er mwyn gwneud yr heriau hyn yn haws drwy alluogi awdurdodau lleol i ymuno gyda chymunedau lleol. Gyda’n gilydd gallwn greu timau o hyrwyddwyr fforestydd dinesig, gan helpu coed i gyrraedd eu llawn dwf, fel y gallant ddarparu fwy o fuddion yn gyfnewid am hyn.

Maent hefyd yn becyn cymorth gydag ysbrydoliaeth a chyngor ar gyfer sefydliadau cymunedol sydd eisiau helpu eu coed lleol gyrraedd eu llawn dwf a gwneud pethau gwych.

Buddion cydweithredu

Dylai awdurdodau lleol a sefydliadau cymunedol weithio gyda’i gilydd mewn ffordd sy’n helpu pawb sy’n gysylltiedig ag ef, sy’n cynnwys pobl leol yn gynnar yn y broses ac sydd wedi’i gydlynu gyda metrau a strategaethau plannu ar hyd a lled y ddinas.

Dyma grynodeb o’r prif fuddion mae pob un yn dod i goedwigaeth drefol. Gall awdurdodau lleol glicio isod a darllen canllawiau mwy manwl ar weithio mewn partneriaeth a chynnal partneriaid cymunedol.

  • Cysylltiadau cadarnhaol gyda phreswylwyr lleol a sefydliadau ar lawr gwlad.
  • Y gallu i ffocysu ar anghenion cymunedol penodol yn hytrach na’r ddinas gyfan.
  • Hyblygrwydd yn y ffordd maent yn denu ac yn cyfarwyddo ariannu.
  • Gwerth cymdeithasol ychwanegol i brosiectau sydd y tu hwnt i fudd ecolegol.

  • Cyfleoedd i ddylanwadu ar brosiectau coed a mannau gwyrdd lleol.
  • Cyfleoedd i gael mynediad at ariannu lle mae blaenoriaethau sefydliadau cymunedol yn alinio gyda blaenoriaethau strategol awdurdodau lleol.
  • Profiad helaeth o blannu a rheoli coed trefol.
  • Perchnogaeth tir mewn trefi a dinasoedd sy’n aml yn agos at lle mae pobl yn byw.
  • Gofod i storio coed, offer ar gyfer plannu a’r gallu i chwilio am bibellau tanddaearol.

Chwyddwydr ar: Birmingham TreePeople

Dysgwch sut mae sefydliad nid er elw Birmingham TreePeople wedi codi momentwm a chefnogi coed yn y gymuned mewn ffyrdd newydd, creadigol.

Gwyliwch y fideo hwn er mwyn darganfod sut maent yn blaenoriaethu ardaloedd gyda’r angen mwyaf am fynediad tecach i goed, a’r buddion y mae hynny wedi ei ddarparu i bobl a llefydd. Mae gan yr astudiaethau achos isod fwy gan Birmingham TreePeople ynghylch eu hymgysylltu cymunedol a gwaith gyda thegwch coed.

Chwyddwydr ar: City of Trees

City of Trees yw’r Goedwig Gymunedol ar gyfer ardal Manceinion Fwyaf. Maent yn plannu coed ar gyfer pobl, er mwyn creu llefydd gwell, mwy gwyrdd.

Mae City of Trees yn gweithio er mwyn rhoi hwb i iechyd a lles, cynyddu sgiliau gwyrdd a mynd i’r afael gyda’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth. Cliciwch isod er mwyn ymweld â’u gwefan a lawrlwytho eu strategaeth, o’r enw ‘All Our Trees’, a darganfod pa effaith maent wedi’i gael drwy eu gwaith mewn rhifau. Gallwch hefyd ddarllen astudiaeth achos ynghylch eu hagwedd newydd tuag at recriwtio, sy’n denu cronfa fwy amrywiol o dalent werdd bosib.

Canllawiau’r awdurdod lleol ar gyfer cynnwys cymunedau

Mae’r 10 cam yma wedi’u cynllunio er mwyn helpu awdurdodau lleol i gydnabod y cyfleoedd a gwneud yn fawr o gydweithredu gydag eraill ar brosiectau coed cymunedol.

Maent yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn, gan dynnu llawer ar arfer Birmingham TreePeople ac eraill yn y sector.

Mae llwyddiant hirdymor eich prosiect yn dechrau gydag ymwneud cymunedau lleol yn gynnar iawn ym mhob cam o’ch cynllunio, gwneud penderfyniadau a datblygiad. Y ffordd yma, gallwch ddeall beth sy’n bwysig i bobl a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar wybodaeth ynghylch sut i gynnwys yr unigolion a’r grwpiau cywir.

Mae’n hanfodol bob pawb sy’n gysylltiedig ag ef yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u gwerthfawrogi. Felly, cyn gofyn iddynt, gofynnwch i chi eich hun:

  • Oes yna grwpiau sydd â diddordebau sy’n gorgyffwrdd (e.e. gerddi cymunedol, cerddwyr, cadw’n heini)?
  • Oes yna sefydliadau angor sy’n rhannu prif flaenoriaethau (e.e. hyrwyddo tegwch cymdeithasol, gwarchod yr amgylchedd)?
  • Oes yna gymunedau lleol iawn o safbwynt llefydd, diddordebau neu hunaniaeth?

Mae Dark Matter Labs wedi cynhyrchu adroddiad a llyfrgell o astudiaethau achos sy’n archwilio sut i gynnwys pobl drwy gydol y prosesau cynllunio sy’n cael eu harwain gan ddata gan gynnwys casglu data gwyddor dinasyddion , delweddu gan ddefnyddio realiti estynedig a gwneud penderfyniadau’n lleol.

Mae hyn yn eich helpu i adnabod a deall lle mae angen newid drwy benderfynu pa ganlyniadau rydych chi’n gweithio tuag atynt:

  • Ystyriwch ddechrau gyda’r materion sy’n bwysig i bobl leol a llunio eich syniadau o amgylch y rhain
  • Ystyriwch sut i godi ymwybyddiaeth a chyfathrebu eich syniad mawr yn yr ardaloedd rydych yn cynllunio i weithio ynddynt
  • Ystyriwch sut i alinio eich syniad gyda strategaethau a chynlluniau eraill
  • Defnyddiwch ddata Sgôr Tegwch Coed y DU er mwyn penderfynu ar leoliadau sy’n cael blaenoriaeth a chymharu’r gorchudd coed mewn cymdogaethau gerllaw

Er mwyn eich helpu i wneud hyn, dylech fapio rhanddeiliaid a phrosiectau’r gorffennol er mwyn adnabod pwy a beth allai fod ar goll. Ewch ati i adnabod eich cryfderau a gwendidau chi a’r bobl rydych yn gweithio gyda hwy. Dylech gydnabod ble y gallwch chi i gyd gefnogi’r hyn sydd eisoes yn digwydd.

Mae’n bosib y bydd hyn yn ymddangos yn rhywbeth rhy amlwg i’w ddweud, ond mae’n bwysig cymryd amser go iawn i ddod i adnabod y bobl a’r cymunedau allweddol rydych chi’n creu partneriaeth gyda hwy.

Meddyliwch am fod yn bartner hael, sy’n rhoi eich amser, adnoddau, arbenigedd, eiriolaeth a deunyddiau ffisegol lle mae’n bosib. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn cymunedau sydd wedi eu hymyleiddio lle mae mannau gwyrdd a seilwaith gwyrdd (megis coed) wedi cael eu hesgeuluso. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi’r bobl gywir gyda’r sgiliau cywir yn eu lle sy’n deall bod rhoi’n hael nid dim ond yn broses i’w dilyn. Mae’n egwyddor i’w gwerthfawrogi sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o anghenion pobl a llefydd.

Meddyliwch ynghylch pa hyfforddiant a sgiliau ychwanegol y gallai pawb fod ei angen a lle y gallwch gael mynediad at y rhain.

Pwyntiau gwirio 

  • Oes gennych chi’r sgiliau amrywiol gofynnol ar draws eich partneriaeth?
  • Oes gennych chi’r cyfuniad cywir o wybodaeth dechnegol a sgiliau ymgysylltu?
  • Ydych chi’n gwirio eich syniad gwreiddiol yn rheolaidd wrth i’ch partneriaeth dyfu?
  • Ydych chi’n bodloni angen gwirioneddol?

Mae hyn yn golygu cyfathrebu’n agored, mewn ffordd sy’n ystyriol a pherthnasol gyda gwahanol grwpiau o bobl. Gall y cam hwn gael ei ymestyn neu ei leihau yn dibynnu ar p’un a ydych chi’n cynllunio digwyddiad unigol neu gyda’r nod o gynyddu gorchudd canopi ar draws eich cymdogaeth gyfan.

  • Gweithiwch yn gydweithrediadol er mwyn deall gwybodaeth a diddordeb sy’n bodoli eisoes ac ystyried sut allwch chi adeiladu ar hyn er mwyn cefnogi fforest ddinesig sy’n datblygu
  • Siaradwch gyda chymaint o bobl â phosib er mwyn casglu syniadau ynghylch sut maent eisiau gwella eu gofodau
  • Cyflogwch arbenigwyr cyd-ddylunio er mwyn datblygu dewisiadau penodol gyda phreswylwyr a grwpiau cymunedol
  • Meddyliwch yn ofalus ynghylch sut rydych chi’n cyflwyno’r weledigaeth fawr (fformat, cynnwys a sianeli cyfathrebu)
  • Paratowch eich cynllun ar gyfer y dyfodol drwy ystyried pwy fydd yn gyfrifol am beth yn y tymor hir

Meddyliwch p’un a ydych eisiau ffurfioli eich cytundeb neu gael rhywbeth yn ysgrifenedig. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os yw’r naill bartner neu’r llall yn gwneud cais am ariannu neu os oes cyfrifoldebau allweddol rydych angen i un sefydliad eu cynnal wrth symud ymlaen. Gall hyn fod yn gytundeb syml, er enghraifft gallech ysgrifennu i lawr eich hymrwymiad ar y cyd, neu ofyn i’ch tîm cyfreithiol am gefnogaeth i greu Memorandwm o Ddealltwriaeth ynghyd ag unrhyw ganiatâd sydd ei angen gan berchnogion tir.

Mae cynllunio da yn hanfodol ar gyfer llwyddiant. Meddyliwch beth yw’r amseroedd gorau ar gyfer eich gwahanol weithgareddau. Er enghraifft, mae gweithgaredd plannu coed llwyddiannus yn y gaeaf angen ei gynllunio fisoedd ymlaen llaw. Gall y gwanwyn fod yn amser gwych i sylwi ar goed a’u gwerthfawrogi. Mae’r haf yn amser da i siarad gyda phobl ynghylch buddion coed. Tymor yr hydref a’r gaeaf yw’r rhai gorau er mwyn cael cymunedau i gymryd rhan mewn plannu coed.

Gallwch wneud y gorau o’r cyfleoedd drwy adolygu pa weithgareddau sy’n gweithio’n dda gyda phartneriaid a sefydliadau lleol. Gall eu harbenigedd a’u profiad helpu i arwain eich cynllun gweithgareddau, ac yn gyfnewid am hyn dylech fod yn dryloyw ynghylch yr hyn rydych chi’n ei wneud a’r rhesymau dros eich penderfyniadau.

Nawr eich bod wedi creu momentwm cymunedol, mae’n amser ei roi ar waith gyda gweithgareddau plannu coed. Gwnewch yn siŵr bod pawb sydd yn gysylltiedig â hyn yn gwybod beth sy’n ddisgwyliedig ohonynt, beth allant ei ddisgwyl o’r profiad a beth sy’n digwydd nesaf. Canolbwyntiwch ar sicrhau bod eich gweithgaredd yn gynhwysol a meddyliwch am ffyrdd y gallwch chi gadw pobl yn rhan o hyn y tu hwnt i blannu coed, ac yn rhan o weithgareddau eich sefydliad.

Cynhaliodd Birmingham TreePeople gyfres o ddigwyddiadau ar ôl plannu er mwyn cadw diddordeb pobl. Roedd hyn yn cynnwys adrodd straeon, ysgrifennu barddoniaeth a chystadlaethau posteri.

Bydd pwy bynnag sydd berchen y tir fel arfer yn parhau i fod yn gyfrifol am ddiogelwch coed oni bai bod rhwymedigaeth yn cael ei drosglwyddo’n ffurfiol. Ond gall cymunedau barhau i ddarparu gofal ychwanegol dros goed a chynyddu eu buddion, felly meddyliwch am ffyrdd creadigol a dengar o’u cadw’n rhan o bethau.

Mae’r Arboricultural Association yn cynnig cyngor ar ddyfrhau coed ifanc, a gall hyd yn oed ddarparu tagiau “Rhowch Ddŵr i Mi Plîs”. Clymwch eich gweithgaredd gyda’r hyn sydd eisoes yn gweithio a beth sydd eisoes yn ei le yn lleol.

Mae Birmingham TreePeople wedi gosod caniau dŵr cyhoeddus gyda chloeon arnynt ger coed maent wedi’u plannu, fel y gall unigolion hybu unrhyw weithgaredd dyfrhau sydd wedi’i drefnu.

Ystyriwch rannu cyfrifoldeb parhaus gyda sefydliadau angor, grwpiau cymunedol neu bobl leol allweddol, a dod o hyd i ffyrdd i’w gwobrwyo hwy am eu hamser a’u hymrwymiad parhaus. Fel yma gallwch sicrhau bod cefnogaeth ddi-dor ar gyfer eich coedwig drefol yn parhau tra rydych yn dechrau prosiect arall mewn ardal arall.

Cadwch mewn cysylltiad gyda’ch cysylltiadau a meddyliwch beth allwch chi ei gynnig, gan gynnwys cyfleoedd hyfforddi, cyngor ar reoli neu gyfarpar, ac offer. Cyfeiriwch hwy tuag at gyfleoedd ariannu a dathlwch eu gwaith yn gyhoeddus. Dychwelwch pryd bynnag mae eich fforest angen rheolaeth bellach er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o fod angen ymyrraeth arwyddocaol ac annog rheoli rhagweithiol.

Pecyn cymorth ar gyfer sefydliadau cymunedol

O ddyfrio coed ar stryd i blannu yn y gymdogaeth a denu nawdd ar gyfer mannau gwyrdd, mae sefydliadau cymunedol yn llinell gymorth hanfodol er mwyn helpu coed gyrraedd aeddfedrwydd drwy ddefnyddio sgiliau ar bob lefel ac ar gyfer y tymor hir.

Canllawiau Coed Cymunedol

Mae’r canllaw hwn ar gyfer grwpiau cymunedol sydd eisiau gwella tegwch coed yn eu hardal. Mae ganddo weithredoedd allweddol er mwyn cynllunio menter plannu coed cymunedol, ffyrdd i ymgysylltu gyda phobl a chyngor ymarferol ar gyfer plannu a gofal tymor hir.

Darllen y canllaw pedwar cam
Darllen y canllaw pedwar cam
Group of people wearing high visibility jackets with wheelbarrows

Sut i Blannu Coed Mwy

Mae mwy a mwy o grwpiau cymunedol yn dod yn rhan o blannu coed mwy mewn llefydd agored cyhoeddus. Mae’r canllawiau yma gan y Grŵp Gweithredu Coed a Dylunio’n amlinellu’r broses blannu gyda dull syml cam wrth gam.

Cymerwch olwg ar y canllawiau
Cymerwch olwg ar y canllawiau
A flowering tee.

Cyfrifwr Plannu Coed

Mae’r Cyfrifwr Plannu Coed yn adnodd syml er mwyn drosi nodau gorchudd canopi coed yn rhifau plannu ar lefel leol er mwyn helpu i wella tegwch coed. Cafodd ei ddatblygu ar gyfer Coed Cadw gan Treeconomics.

Defnyddio’r adnodd
Defnyddio’r adnodd
Two people planting a wooden post to support a young tree.

Mwy o’r rhaglen Cyflymydd Coedwig Drefol

Mae’r canllawiau hyn yn rhan o gyfres o adnoddau a grëwyd gan y rhaglen Cyflymydd Coedwig Drefol. Mae’r testun ar y dudalen we yma yn cael ei drwyddedu gan y rhaglen Cyflymydd Coedwig Drefol o dan CC drwy 4.0. Darganfyddwch fwy ynghylch sut allwn ni greu coedwigoedd trefol tecach yn ein trefi a dinasoedd gyda’u hadnoddau eraill isod neu drwy’r ddolen hon. Cafodd y rhaglen ei rhedeg mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Coedwig Gymunedol a Coed Cadw, ac yn cael ein hariannu gan gronfa Trees Call to Action Fund. Cafodd y gronfa hon ei datblygu gan DEFRA mewn partneriaeth gyda’r Comisiwn Coedwigaeth ac mae’n cael ei darparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch yn arbennig i Gyngor Dinas Birmingham a Birmingham TreePeople.

Astudiaeth Achos Canllaw Dechreuwch arni gyda... - 24-06-2025

Creu prif gynllun coedwig drefol

Astudiaethau achos ac adnoddau er mwyn helpu i drawsnewid eich agweddu tuag at gynllunio a rheoli coedwig drefol, gan ddarparu buddion teg i bobl a byd natur.

Adfer natur, Gwydnwch hinsawdd - Coedwigaeth a choed

Astudiaeth Achos Canllaw Dechreuwch arni gyda... - 24-06-2025

Tyfwch goedwig drefol deg

Ysbrydoliaeth, canllawiau ac adnoddau i ddatgloi buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol coedwigoedd trefol ar gyfer pawb, gan ddefnyddio egwyddor tegwch coed.

Adfer natur, Cymunedau, Gwirfoddoli, Gwydnwch hinsawdd, Iechyd a llesiant - Coedwigaeth a choed, Ymgysylltiad cymunedol

Canllaw Dechreuwch arni gyda... - 24-06-2025

Gwerth ac ariannu coedwig drefol

Eich canllaw i ddangos gwir werth coed yn eich tref neu ddinas a denu ariannu sy’n cefnogi cynnal a thwf tymor hir.

Adfer natur, Ariannu a chyllid - Coedwigaeth a choed

Astudiaeth Achos Gweminar - 24-06-2025

Coedwigoedd trefol i bawb

O’r archif - ystyriodd y weminar hon sut allwn ni greu coedwigoedd trefol tecach yn ein trefi a dinasoedd a lansio’r Pecyn Cymorth Cyflymu Coedwigoedd Trefol. Gwyliwch y recordiad a lawrlwythwch y cynnwys a rannwyd.

Ariannu a chyllid, Cymunedau - Coedwigaeth a choed, Ymgysylltiad cymunedol