
Tyfwch goedwig drefol deg
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
Mae tegwch coed yn ymwneud â chyfiawnder. Y realiti yw nad oes gan bawb fynediad teg at fuddion coed, ac mae pobl mewn llefydd dinesig sydd â llai o orchudd canopi yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan bethau megis llifogydd, llygredd aer a gwres eithafol.
Ond gyda’n gilydd gallwn ddechrau newid hynny, diolch i adnoddau hygyrch sy’n seiliedig ar ddata, sy’n rhad ac am ddim ac sy’n dangos lle mae gorchudd canopi isel yn gorgyffwrdd gyda phwysau gan elfennau cymdeithasol ac economaidd eraill.
Mae’r canllaw hwn yn edrych ar sut all awdurdodau lleol ddefnyddio’r adnoddau hyn er mwyn rhoi anghenion pobl yng nghanol prif gynlluniau mwy teg, gan roi mynediad i gymunedau i’r buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y mae coed trefol yn eu cynnig.
Sut beth yw annhegwch coed?
Tri sefydliad sy’n gweithio i ddarparu tegwch coed mewn trefi a dinasoedd yn rhannu eu meddyliau ynghylch beth mae’n ei olygu i bobl a llefydd.
Mae’r adnodd Sgôr Tegwch Coed y DU sydd am ddim ac sydd wedi’i ddatblygu ar y cyd gan Coed Cadw, yn galluogi llefydd i adnabod meysydd o annhegwch. Ynghyd â’u Cyfrifwr Plannu Coed maent yn darparu data hollbwysig ar gyfer cynllunio coedwigaeth drefol.
Mae’r adnodd yn adeiladu ar egwyddorion o degwch amgylcheddol sydd wedi’u hen sefydlu. Mae’n cynnwys yr holl ardaloedd dinesig yn y DU, gan gyfuno gwybodaeth amgylcheddol a chymdeithasol allweddol er mwyn rhoi sgôr ar lefel cymdogaeth yn ogystal â blaenoriaethu ardaloedd ar gyfer gweithredu ar degwch coed. Cafodd yr adnodd ei ddatblygu ar y cyd gan ymddiriedolaeth Coed Cadw, Y Ganolfan Iechyd Amgylcheddol ac American Forests.
Mae’r canllaw hwn yn llawn syniadau sy’n gallu mynd â’ch prosiect tegwch coed o’i ddechreuad i waith cynnal ymgysylltu cymunedol.
Mae’r camau wedi’u cynllunio i fod yn hyblyg i weithio ar gyfer gwahanol lefydd a chymunedau – mae croeso i chi ddewis ym mha bynnag ffordd sy’n gweddu i’ch anghenion.
Mae pob cynllun effeithiol yn dechrau gyda dealltwriaeth o beth yw’r broblem. Pan rydych wedi sefydlu’r angen am wella tegwch coed yn eich tref neu ddinas gallwch wirio eich ffordd o feddwl:
Meddyliwch pwy sydd gan y sgiliau, gwerthoedd a’r perthnasoedd yn fewnol rydych chi eu hangen. Meddyliwch ynghylch blaenoriaethau pwy sy’n alinio’n naturiol gyda’r math hwn o waith. Meddyliwch am unrhyw berthnasoedd neu bartneriaethau allanol y gallech chi eu datblygu er mwyn eich helpu i gael y gorau o’r Sgôr Tegwch Coed. Meddyliwch pwy sy’n cyfrannu beth a phwy allai gyfrannu adnoddau mewn nwyddau. Yn bennaf oll, meddyliwch sut y byddwch yn rhoi eich cynlluniau ar waith (e.e. mewn cymdogaethau tegwch coed isel gyda heriau sylweddol).
Defnyddiwch yr adnodd am ddim Sgôr Tegwch Coed er mwyn deall sgoriau tegwch coed ar draws eich tref neu ddinas.
Defnyddiwch y sgôr i fireinio eich cynllun:
Siarad gydag awdurdodau lleol ac arweinwyr gwleidyddol:
Siaradwch gyda chymunedau:
Meddyliwch am strategaethau a pholisïau presennol eich awdurdod lleol. Gallai tegwch coed naill ai fod yn sail i ddatblygu cynlluniau sefydlu coed ar raddfa cymdogaeth, arwain prif gynllun fforest ddinesig ar draws llefydd neu strategaeth coed, neu gael ei ychwanegu at strategaethau coed a fforestydd dinesig fel prif nod ychwanegol. Mae’r Tree Council wedi cynhyrchu canllawiau ar gynhyrchu strategaethau coed a choedwigoedd.
Pethau i’w hystyried:
Sut fyddech chi’n mewnosod tegwch coed yn rhan o strategaethau sy’n bodoli eisoes?
A allai tegwch coed fod yn sail i Strategaethau Adfer Byd Natur Leol?
Allwch chi fewnosod tegwch coed yn rhan o bolisi cynllunio lleol (e.e. Cyngor Dinas Birmingham i ystyried gorchudd canopi wrth asesu ceisiadau ar gyfer croesfannau llwybr troed a thynnu coed)?
Sut fyddwch chi’n ei droi o fod yn strategaeth i gynllun cyflawni?
Dyma astudiaeth achos er mwyn dysgu sut mae Cyngor Bournemouth, Christchurch a Poole a Chyngor Dinas Belfast wedi integreiddio tegwch coed yn rhan o’u strategaethau coed trefol a sut wnaeth hyn weithio.
Dyma astudiaeth achos er mwyn dysgu sut y gwnaeth Cyngor Dinas Birmingham a Birmingham Tree People ddefnyddio eu Sgôr Tegwch Coed yn sail i ble maent yn gweithio a sut maent yn defnyddio eu hamser.
Cyn gynted ag y byddwch yn gwybod ble mae eich ardaloedd o brif flaenoriaeth a pha rai gaiff eu delio â nhw gyntaf, bydd hi’n amser siarad, mae’n amser siarad gyda’r bobl sy’n byw yno, dod i ddeall beth yw eu safbwynt ar goed a thrafod lle mae cyfleoedd i blannu mwy. Mae siarad gyda phobl nawr yn sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys a’u bod yn cael budd o’r broses.
Adeiladwch ar y stori tegwch coed rydych chi wedi dechrau arni a helpu pobl ddeall ei fod yn fwy na dim ond plannu. Mae’n bosib y bydd gan bobl gynlluniau ar gyfer lleoliadau plannu neu ddyluniadau mewn golwg, neu gallwch ddefnyddio ‘Adnabod lleoliadau plannu posib’ er mwyn helpu i greu opsiynau iddynt ddewis ohonynt.
Beth bynnag yw eich dull o ymgysylltu, dyma rai gweithredoedd allweddol i’w cadw mewn cof:
Bydd eich partneriaethau gyda phreswylwyr yn parhau i dyfu wrth i chi symud drwy bob cam. Mae hyn yn allweddol er mwyn cadw pawb yn rhan o’r broses yn y tymor hir.
Ar y cam hwn, byddai’n ddefnyddiol sefydlu targed plannu. Mae Treeconomics ac ymddiriedolaeth Coed Cadw wedi creu cyfrifwr targed plannu tegwch coed sy’n gallu eich helpu i osod nodau ar gyfer cynyddu gorchudd coed ar raddfa cymdogaeth. Mae hyn yn eich galluogi i osod ac addasu % targedau gorchudd canopi a’r niferoedd o goed bach/canolig/mawr sydd eu hangen er mwyn cyrraedd y rhain.
Yna gallwch symud ymlaen i adnabod lleoliadau plannu posib. Mae’n bosib eich bod eisoes wedi darganfod bod gan rai pobl syniadau cryf ynghylch ble maent eisiau plannu coed. Mae’n bosib y bydd eraill angen ychydig mwy o arweiniad. Beth bynnag fo’r achos, gall fod yn ddefnyddiol i greu rhestr fel o leoliadau sy’n realistig ac sydd hefyd yn cynrychioli blaenoriaethau pobl.
Pethau i’w hystyried wrth greu eich rhestr fer:
Bydd cadw eich cymunedau’n rhan o bethau y tu hwnt i blannu – i mewn i’r camau sefydlu a chynnal – yn rhoi’r cyfle gorau i goed gyrraedd aeddfedrwydd a darparu’r buddion gorau posib.
Mae canllawiau’r Grŵp Gweithredu Coed a Chynllunio, Sut i Blannu Coed Mawr yn ganllaw hygyrch i blannu coed mawr mewn gofodau cyhoeddus. Bydd yn helpu i chi rymuso grwpiau eraill sydd â diddordeb mewn plannu coed, gan ddarparu’r wybodaeth maent ei hangen er mwyn sefydlu coed iach mewn trefi a dinasoedd.
Bydd Sgôr Tegwch Coed Coed Cadw yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol, felly wrth i goed dyfu yn y tymor hir dylech fod yn gallu olrhain y newid yn y gorchudd canopi dros amser.
Mae tegwch coed yn ffordd wych o rannu stori ynghylch eich cynnydd. Lledaenwch y gair ynghylch y gwelliannau rydych chi wedi’u gwneud, o ble cychwynnodd eich cymdogaeth a pha mor bell maent wedi dod ar eu taith werdd.
Mae tegwch coed yn ymwneud cymaint â phobl ag ydyw am goed. Cofiwch ddweud straeon dynol yn ogystal. Pwy oedd ynghlwm â’r plannu, sut y gwnaeth hyn wneud gwahaniaeth a beth mae tegwch coed yn ei olygu iddyn nhw?
Gwyliwch y fideo hwn er mwyn gwrando ar straeon yn seiliedig ar brofiad o sut mae’r gwaith Birmingham Tree People wedi bod o fudd i bobl yn y gymuned.
Mae’n bwysig meddwl ynghylch sut y gall adnoddau digidol ychwanegu at ddatblygiad cymunedol teg, yn hytrach na chymryd ei le.
Mae Dark Matter Labs wedi cynhyrchu adroddiad a llyfrgell o astudiaethau achos sy’n archwilio sut i gynnwys pobl drwy gydol y broses gynllunio sy’n cael ei harwain gan ddata, gan gynnwys casglu data gwyddonol dinasyddion, delweddu gan ddefnyddio realiti estynedig a gwneud penderfyniadau’n lleol.
Mae’r canllawiau hyn yn rhan o gyfres o adnoddau a grëwyd gan y rhaglen Cyflymydd Coedwig Drefol. Mae’r testun ar y dudalen we yma yn cael ei drwyddedu gan y rhaglen Cyflymydd Coedwig Drefol o dan CC drwy 4.0. Darganfyddwch fwy ynghylch sut allwn ni greu coedwigoedd trefol tecach yn ein trefi a dinasoedd gyda’u hadnoddau eraill isod neu drwy’r ddolen hon. Cafodd y rhaglen ei rhedeg mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Fforest Gymunedol ac Ymddiriedolaeth Coed Cadw, ac yn cael ei hariannu gan gronfa Trees Call to Action Fund. Cafodd y gronfa hon ei datblygu gan DEFRA mewn partneriaeth gyda’r Comisiwn Coedwigaeth ac mae’n cael ei darparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch yn arbennig i Gyngor Dinas Birmingham a Birmingham TreePeople.
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
24-06-2025
Gweminar
Astudiaeth Achos
Gweminar
09-12-2024
Gweminar
Astudiaeth Achos
Gweminar
09-12-2024