People talking and looking at plants on a flat balcony.
Blue illustration of a butterfly.

Canllaw cymunedol i gyd-ddylunio

18-03-2026

Dechreuwch arni gyda...

Canllaw

Dewch â chymdogaethau a natur ynghyd, gydag adnoddau ac awgrymiadau i osod pobl, planhigion a lleoedd lleol wrth y llyw.
Cymunedau - Cyd-ddylunio

©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris

Beth ydym ni’n ei olygu wrth sôn am ‘gyd-ddylunio’ mewn cymunedau?

Mae cyd-ddylunio yn ffordd o ddod â phobl sydd â gwahanol safbwyntiau ynghyd, i feddwl am syniadau newydd ar gyfer eu cymuned sy’n rhoi help llaw i fannau gwyrdd, lleoedd a phobl leol.

Mae Alex Quattrone, ymarferydd arbenigol mewn cyd-ddylunio, yn diffinio cyd-ddylunio fel a ganlyn:

“Mae cyd-ddylunio yn dod â phobl y mae problem yn effeithio arnynt ynghyd â sefydliadau, arbenigwyr a phenderfynwyr er mwyn meddwl am ddatrysiadau ar y cyd”

Er bod gwahanol ffyrdd o ymdrin â’r broses hon, dylai egwyddorion cyd-ddylunio deimlo’r un fath. Mae Alex yn crynhoi’r rhain fel egwyddorion sy’n:

  • Canolbwyntio ar bobl – gweithio ochr yn ochr â phobl a gweld gwerth mewn amrywiaeth o wybodaeth a phrofiadau bywyd
  • Cynhwysol a chyfranogol – cael gwared ar rwystrau rhag cyfranogi, gan ddefnyddio ffyrdd creadigol o ennyn diddordeb, cydnabod cryfderau pobl a datblygu gallu
  • Agored a thryloyw – sicrhau fod amser digonol i drafod syniadau a’u datblygu ar y cyd
  • Cydweithredol – cydweithio â llawer o wahanol bobl â syniadau a safbwyntiau amrywiol

Yn anad dim, mae cyd-ddylunio yn cynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o broblem neu fater, gan ei gwneud mor hawdd â phosibl iddynt rannu eu barn a datblygu’r canlyniad.

Mae’n symud grwpiau ar hyd y daith o brofiadau a chwestiynau i syniadau, atebion a phrofi – a hynny’n gyflym weithiau.

Darllenwch ymlaen i ddarganfod sut i gynnal proses gyd-ddylunio sy’n seiliedig ar yr egwyddorion hyn, gan fynd â grwpiau y tu hwnt i’r cyfarwydd i leoedd annisgwyl sy’n rhoi help llaw i bobl a natur.

Pam mae cyd-ddylunio'n bwysig?

Gall cyd-ddylunio edrych yn wahanol iawn i ffyrdd sefydledig o weithio. Rhannodd y Co-Production Collective ychydig am sut mae’n helpu pobl a natur mewn cymunedau trefol.

Cyflawni’r hyn sy’n bwysig

Effeithlonrwydd

Cyfiawnder cymdeithasol

Grymuso pobl

Nodau a rennir