Gwneuthurwyr natur: Katy Hawkins
12-08-2025
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
12-08-2025
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
Arweinydd Cymunedol, Birmingham TreePeople
Mae’r cysylltiad rhwng pobl a choed wedi’i wreiddio’n ddwfn. O symbol diwylliannol i westeiwr bywyd gwyllt gwych, llecyn cysgodol rheolaidd i fan chwarae, mae sawl ystyr posibl i un goeden.
Mae coed yn cynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol niferus hefyd. Darllenwch ymlaen i ddysgu sut mae Katy Hawkins, Arweinydd Cymunedol gyda sefydliad dielw Birmingham TreePeople, yn helpu i dyfu’r buddion hyn drwy blannu coed gyda chymunedau sydd eu hangen fwyaf ar draws y ddinas.
Bu Katy yn gweithio â choed ers 2017. “Bryd hynny, roeddwn yn cynnal teithiau cerdded coed yn ne Birmingham, gan weithio ar y cyd â beirdd ar gyfer eu hystyried nhw o safbwynt celfyddydol”.
Heddiw, fel arweinydd cymunedol gyda Birmingham TreePeople, mae gwaith Katy yn parhau i edrych ar sut mae pobl yn cysylltu â choed.
Mae’n ymwneud hefyd â nodi ardaloedd sy’n isel o ran gorchudd coed ac yn uchel o ran colled coed, a gweithio â chymunedau lleol i newid hynny drwy’r egwyddor o degwch coed.
“Mae coed yn hanfodol i iechyd dynol, iechyd ecolegol a grymuso cymunedol” meddai Katy.
Gan ddefnyddio map ‘TreePlotter’ Birmingham TreePeople, sy’n dangos yr ardaloedd sy’n isel ac sy’n lleihau yn y nifer o ganopïau sy’n eu gorchuddio, mae Katy yn blaenoriaethu wardiau canol dinas ar gyfer prosiectau plannu coed sy’n helpu i gyflawni ar yr holl bwyntiau hyn a mwy.
Gan weithio’n agos ag amrywiaeth o fannau a grwpiau cymunedol yn Alum Rock a Nechells, nid yn unig mae gwaith Katy wedi cyflwyno mwy o degwch coed i’r trigolion yno. Mae hefyd wedi sbarduno mentrau ar gyfer gwell iechyd meddwl, gwydnwch hinsawdd ac ysbryd cymunedol sy’n rhoi’r ardaloedd hyn o Birmingham – lle gall pobl deimlo eu bod yn cael eu hanghofio – yn ôl ar y map. Mae ychydig o’r uchafbwyntiau i’w cael isod.
Dan arweiniad Katy, mae partneriaeth gyda Chweched Dosbarth Washwood Heath Academy wedi dod â mwy o goed i Alum Rock ac wedi grymuso pobl ifanc i wneud gwelliannau amgylcheddol yn eu dinas. Rhoddodd y prosiect gyfle i'r disgyblion ehangu ar eu gwaith casglu sbwriel a gofal stryd presennol i fynd i'r afael â phroblemau eraill fel draeniad gwael. Buont yn dysgu am hanes cyfoethog a symbolaeth y coed yr oeddent yn eu plannu gyda chefnogaeth Cyngor Dinas Birmingham, fel etifeddiaeth y goeden diwlip dal fel canolwr rhwng y ddaear a'r awyr.
Planwyr coed ifanc yn Washwood Heath
Dros gyfnod o flwyddyn, gweithiodd Katy a grŵp o fenywod Mwslimaidd o'r Gynghrair 'Go-Woman!' a'r Fforwm 'Count Me In' oedd yn frwdfrydig i wella eu strydoedd lleol yn Alum Rock. Roedd yno sesiynau creadigol i gefnogi menywod i gymryd rhan ar eu telerau eu hunain, a phamffledi cymunedol i ledaenu'r neges. Dysgodd y grŵp am ddefnydd llysieuol coed a'i symbolaeth, gan helpu i blannu coed ginko, liquidambar styraciflua ('sweetgum') a sterculia quadrifida (pysgnau). Trefnir sesiynau dyfrio coed, casglu sbwriel a theithiau cerdded coed i gadw'r ysbryd cymunedol – a'r coed – yn fyw.
Aeth Katy â grŵp lleol o 'Women of Worth' i 'St John's House', man aml-ffydd yn Alum Rock, am gyfuniad unigryw o gyfaredd, gwyddoniaeth a phlannu coed. Plannwyd tair coeden newydd mewn digwyddiad dathlu a oedd yn cynnwys paentio ar y cyd, gwneud te bedw a rhannu straeon o bob cwr o'r byd. Bu i'r straeon ddatgelu'r ffyrdd y mae coed a diwylliant coed-pobl yn cael eu cynnal ym mamwledydd y menywod, yn cynnwys coed dymuno yn Hong Kong, diwylliannau o groesawu coed yn Sudan a brenin y ffrwythau a'r goeden ffrwythau yn Pakistan - y mango.
Rhagor o straeon o 'St John's House'Mae pedair coeden newydd a blannwyd yng Nghanolfan Teuluoedd a Phlant Norton Hall yn cynnig cysgod a choffâd ingol i gymuned Alum Rock. Bydd tri o'r trigolion deiliog newydd hyn yn darparu cysgod hanfodol i blant sy'n mwynhau gemau a rhaglenni Ysgol Goedwig. Yn y cyfamser, mae pedwaredd goeden a blannwyd yn yr ardd goffa yn destament parhaus i gofio am rywun hynod o arbennig i'r ganolfan. Cefnogwyd Katy unwaith eto gan Gyngor Dinas Birmingham i greu'r mannau croesawgar hyn i bawb.
"Rwy'n awyddus i blannu coed fod yn dda ac i bobl deimlo'n falch", ategodd Katy.
Yma, mae Katy yn rhannu pum ‘awgrym mewnol’ ar gyfer helpu i ddod â buddion cymdeithasol ac amgylcheddol coed i bawb.
“Peidiwch â bod ofn cysylltu â’r rhwydwaith llawn o weithwyr sy’n ymwneud â choed yn eich ardal chi” meddai Katy. Mae cysylltiadau cryfach â rhwydwaith goed y ddinas i Birmingham TreePeople wedi galluogi’r sefydliad i oresgyn problemau gyda chysondeb o ran dyfrio, er enghraifft, drwy ymgysylltu â chontractwyr preifat i lenwi’r bylchau. “Rydym yn ddiolchgar iawn am y cymorth a gawsom gan Dîm Coetir Cyngor Dinas Birmingham i’n helpu ni i symud a phlannu coed yn y gymuned hefyd.”
“Dewch o hyd i ystyr coed i ardal neu gymuned benodol a datblygwch y rhaglen o’r fan honno”. Haenwch y cynlluniau ar gyfer y tymor byr – “rydym bob amser yn gwneud cais am ddwy i dair blynedd o gyllid ar gyfer dyfrio coed” – a’r goblygiadau hirdymor o goed yn byw am ddegawdau i ddod. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod coed trefol mawr ac aeddfed yn darparu mwy o fuddion na choed llai. Ceisiwch greu fframwaith i helpu coed gyrraedd 80 a thu hwnt fel y gallant roi mwy’n ôl yn eu tro.
Mae adnoddau fel y map TreePlotter yn dangos cyfleoedd i fynd i’r afael â gorchuddion canopi isel neu rai sy’n gostwng. Fodd bynnag, dim ond cyn belled â hyn a hyn y maent yn mynd o ran adrodd stori goeden cymuned. “Mae hi mor bwysig treulio amser yn yr ardaloedd hyn i ddeall yr heriau mae pobl yn eu hwynebu gyda choed hefyd”. Gallai fod yn wreiddiau yn achosi problemau i bramiau wrth fynd heibio, dail llithrig dan droed neu goed enfawr yn tyfu mewn mannau lle mae lle yn brin. “Siaradwch â thrigolion ynglŷn â beth, ble a sut rydych yn bwriadu plannu a gweithiwch gyda nhw i gyd-greu rhywbeth sydd wirioneddol yn gweithio”.
“Mae cynllunio trefol yn dylanwadu ar bob rhan o’m gwaith”. “Mae lle yng nghanol y ddinas yn gystadleuol, felly defnyddiwch y seilwaith sy’n bodoli lle bo’n bosibl.” Yn achos Katy, un o’r pethau fu’n llwyddiant yma oedd gweithio â Chyngor Dinas Birmingham a’i gontractwr coed stryd lleol i sicrhau caniatâd i blannu coed stryd newydd mewn tyllau coed sy’n bodoli. Mae’r cyngor hefyd wedi cefnogi gweithgarwch plannu ar dir tai yn Nechells, lle bu Katy yn ymgynghori â mapiau presennol a mynd ar deithiau cerdded gyda grwpiau lleol i nodi lle’r oedd yr angen mwyaf am goed newydd.
Er y gall estyn allan i gymunedau a phlannu ar dir sy’n berchen i Gyngor Dinas Birmingham fynd rhywfaint o’r ffordd i ddod â buddion amgylcheddol coed i fwy o bobl, mae tir preifat yn chwarae rôl allweddol hefyd. “Un elfen gadarnhaol o blannu ar dir preifat yw bod modd i chi weithio gyda’r perchnogion neu’r deiliaid i ofalu am y coed fel ‘stiwardiaid sy’n byw i mewn'” meddai Katy. A thrwy blannu ar ffiniau’r lleoedd hyn, mae hi’n dal yn bosibl i’r cyhoedd elwa ohonynt hefyd, a’u mwynhau.
Mae Katy a’r tîm yn Birmingham TreePeople wedi creu momentwm a chefnogaeth i goed yn y gymuned mewn ffyrdd newydd, creadigol.
Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu sut maent yn blaenoriaethu ardaloedd gyda’r angen mwyaf am fynediad tecach i goed, a’r buddion y mae wedi’u cyflwyno i bobl a lleoedd.
Mae gan y botymau isod ragor gan Birmingham TreePeople ynghylch ei ymgysylltiad cymunedol, gwaith tegwch coed a’r Prif Gynllun Coedwigoedd Trefol.
Cliciwch isod am ragor o adnoddau i'n helpu i greu coedwigoedd trefol tecach yn ein trefi a'n dinasoedd o'r rhaglen Cyflymu Coedwigoedd Trefol, y bu i Birmingham TreePeople chwarae rhan allweddol ynddi.
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
24-06-2025