Gwneuthurwyr natur: Katy Hawkins
12-08-2025
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
12-08-2025
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
Arweinydd Cymunedol, Birmingham TreePeople
Mae’r cysylltiad rhwng pobl a choed wedi’i wreiddio’n ddwfn. O symbol diwylliannol i gynhaliwr bywyd gwyllt gwych, llecyn cysgodol i fan chwarae, mae sawl ystyr posibl i un goeden.
Maen nhw’n cynnig llawer o fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol hefyd. Darllenwch ymlaen i ddarganfod sut mae Katy Hawkins, Arweinydd Cymunedol gyda’r sefydliad nid er elw Birmingham TreePeople, yn helpu i dyfu’r manteision hyn trwy blannu coed gyda chymunedau sydd eu hangen fwyaf ar draws y ddinas.
Mae Katy wedi bod yn gweithio â choed ers 2017. “Bryd hynny, roeddwn yn cynnal teithiau cerdded coed yn ne Birmingham, gan weithio ar y cyd â beirdd er mwyn hystyried nhw o safbwynt celfyddydol”.
Gan symud ymlaen i’r presennol, fel arweinydd cymunedol gyda Birmingham TreePeople, mae gwaith Katy yn parhau i edrych ar sut mae pobl yn cysylltu â choed.
Mae’n ymwneud hefyd â nodi ardaloedd sy’n isel o ran gorchudd coed ac yn uchel o ran colled coed, a gweithio â chymunedau lleol i newid hynny drwy egwyddor tegwch coed.
“Mae coed yn hanfodol i iechyd dynol, iechyd ecolegol a grymuso cymunedol” meddai Katy.
Gan ddefnyddio map ‘TreePlotter’ Birmingham TreePeople, sy’n dangos yr ardaloedd sydd â lefelau isel o orchudd canopi neu lefel sy’n lleihau, mae Katy yn blaenoriaethu wardiau canol dinas ar gyfer prosiectau plannu coed sy’n helpu i gyflawni ar yr holl bwyntiau hyn a mwy.
Gan weithio’n agos ag amrywiaeth o leoliadau a grwpiau cymunedol yn Alum Rock a Nechells, mae gwaith Katy nid yn unig wedi cyflwyno mwy o degwch coed i’r trigolion yno, mae hefyd wedi sbarduno mentrau ar gyfer gwell iechyd meddwl, gwydnwch hinsawdd ac ysbryd cymunedol sy’n rhoi’r ardaloedd hyn o Birmingham – lle gall pobl deimlo eu bod yn cael eu hanghofio – yn ôl ar y map. Mae ychydig o’r uchafbwyntiau i’w gweld isod.
Mae partneriaeth dan arweiniad Katy gyda Chweched Ddosbarth Academi Washwood Heath wedi dod â mwy o goed stryd i Alum Rock ac wedi grymuso pobl ifanc i wneud gwelliannau amgylcheddol yn eu dinas. Rhoddodd y prosiect gyfle i ddisgyblion ehangu ar eu gwaith codi sbwriel a gofalu am y stryd presennol i fynd i'r afael â materion eraill fel draenio gwael. Dysgon nhw am hanesion cyfoethog a symbolaeth y coed roedden nhw'n eu plannu gyda chefnogaeth Cyngor Dinas Birmingham, fel etifeddiaeth y diwlipwydden fel cyfryngwr rhwng y ddaear a'r awyr.
Plannwyr coed ifanc yn Washwood Heath
Dros gyfnod o flwyddyn, bu Katy yn gweithio gyda grŵp o fenywod Mwslimaidd o'r Go-Woman! Alliance a Count Me In Forum sy'n angerddol dros wella eu strydoedd lleol yn Alum Rock. Cynhaliwyd sesiynau creadigol i gefnogi menywod i gymryd rhan ar eu telerau eu hunain, a thaflenni cymunedol i ledaenu'r neges. Dysgodd y grŵp am ddefnydd llysieuol a symbolaeth coed, gan helpu i blannu coed ginkgo, gwm melys a chnau mwnci. Mae teithiau cerdded coed, sesiynau codi sbwriel a sesiynau dyfrio coed wedi'u cynllunio i gadw'r ysbryd cymunedol – a'r coed – yn fyw.
Daeth Katy â grŵp lleol o Women of Worth i St John’s House, gofod aml-ffydd yn Alum Rock, ar gyfer cymysgedd unigryw o hud coed, gwyddoniaeth a phlannu. Plannwyd tair coeden newydd mewn dathliad gyda pheintio ar y cyd, gwneud te bedw a rhannu straeon o bob rhan o'r byd. Datgelodd y straeon y ffyrdd y mae coed a diwylliant dynol ynghylch coed yn amlygu eu hunain ym mamwledydd y menywod, gan gynnwys coed dymuniadau yn Hong Kong, diwylliannau o groesawu coed yn Sudan a brenin y ffrwythau a'r coed ffrwythau ym Mhacistan - y goeden fango.
Mwy o straeon o St John’s HouseMae pedair coeden newydd a blannwyd yn Norton Hall Family & Children Centre yn cynnig cysgod a chofeb deimladwy i gymuned Alum Rock. Bydd tair o'r coed newydd hyn yn darparu cysgod hanfodol i blant sy'n mwynhau gemau a rhaglenni Ysgol Goedwig. Yn y cyfamser, mae pedwaredd goeden a blannwyd yn yr ardd goffa yn gofeb i rhywun arbennig iawn i'r ganolfan. Cafodd Katy ei chefnogi eto gan Gyngor Dinas Birmingham wrth greu'r mannau croesawgar hyn i bawb.
"Rwyf am i blannu coed fod yn beth da ac i bobl deimlo'n falch" meddai Katie.
Yma mae Katy yn rhannu pum ‘awgrym mewnol’ i helpu i ddod â buddion cymdeithasol ac amgylcheddol coed i bawb.
“Peidiwch â bod ofn estyn allan i’r rhwydwaith llawn o weithwyr sy’n gysylltiedig â choed yn eich ardal” meddai Katy. Mae cysylltiadau cryfach Birmingham TreePeople ag ecosystem goed y ddinas wedi eu galluogi i oresgyn problemau gyda dyfrio cyson, er enghraifft, drwy gynnwys contractwyr preifat i lenwi’r bylchau. “Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Tîm Coetiroedd Cyngor Dinas Birmingham wrth ein helpu i symud a phlannu coed yn y gymuned hefyd.”
“Dewch o hyd i ystyr coed ar gyfer ardal neu gymuned benodol a datblygwch y rhaglen o’r fan honno”. Haenwch y cynlluniau ar gyfer y tymor byr – “rydym bob amser yn gwneud cais am ddwy i dair blynedd o gyllid ar gyfer dyfrio coed” – a goblygiadau hirdymor coed sy’n byw am ddegawdau i ddod. Mae ymchwil yn dangos bod coed trefol mwy, aeddfed yn darparu mwy o fuddion na rhai llai. Ceisiwch greu’r fframwaith i helpu coed i gyrraedd 80 oed a thu hwnt fel y gallant roi mwy yn ôl.
Mae adnoddau fel y map TreePlotter yn tynnu sylw at gyfleoedd i fynd i’r afael â gorchudd canopi isel neu sy’n lleihau. Ond dim ond i raddau y maent yn adrodd stori goed cymuned. “Mae mor bwysig treulio amser mewn ardaloedd i ddeall yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu gyda choed hefyd”. Gallai fod yn wreiddiau sy’n achosi anhawster i gadeiriau gwthio, dail llithrig o dan draed neu goed mawr yn cymryd lle gwerthfawr mewn mannau lle mae diffyg lle. “Siaradwch â thrigolion am beth, ble a sut rydych chi’n bwriadu plannu a gweithio gyda nhw i gyd-greu rhywbeth sy’n gweithio go iawn”.
“Mae cynllunio trefol yn dylanwadu ar fy holl waith”. “Gall gofod yng nghanol y ddinas fod yn destun dadl, felly gwnewch ddefnydd o seilwaith presennol lle bo modd.” Yn achos Katy, un llwyddiant penodol yma fu gweithio gyda Chyngor Dinas Birmingham a’u contractwr coed stryd lleol i gael caniatâd i blannu coed stryd newydd mewn pyllau coed presennol. Mae’r cyngor hefyd wedi cefnogi gweithgaredd plannu ar dir tai yn Nechells, lle bu Katy yn edrych ar fapiau presennol ac yn mynd ar deithiau cerdded gyda grwpiau lleol i nodi ble roedd angen coed newydd fwyaf.
Er y gall estyn allan i gymunedau a phlannu ar dir sy’n eiddo i Gyngor Dinas Birmingham wneud dipyn o ran cyflwyno buddion amgylcheddol coed i fwy o bobl, mae tir preifat yn chwarae rhan allweddol hefyd. “Un peth cadarnhaol am blannu ar dir preifat yw y gallwch weithio gyda’r perchnogion neu’r deiliaid i ofalu am y coed fel ‘stiwardiaid preswyl’” meddai Katy. A thrwy blannu ar ffiniau’r mannau hyn, mae’n dal yn bosibl i’r cyhoedd elwa ohonynt a’u mwynhau hefyd.
Mae Katy a’r tîm yn Birmingham TreePeople wedi adeiladu momentwm a chefnogaeth i goed yn y gymuned mewn ffyrdd newydd, creadigol.
Gwyliwch y fideo i ddarganfod mwy am sut maent yn blaenoriaethu ardaloedd sydd â’r angen mwyaf am fynediad tecach i goed, a’r buddion y mae hynny wedi’u cyflwyno i bobl a lleoedd.
Mae gan y botymau isod fwy o wybodaeth gan Birmingham TreePeople am eu gwaith ymgysylltu â’r gymuned, eu gwaith tegwch coed a’u Huwchgynllun Coedwig Drefol.
Cliciwch isod am fwy o adnoddau o'r rhaglen Urban Forest Accelerator i helpu i greu coedwigoedd trefol tecach yn ein trefi a'n dinasoedd; chwaraeodd Birmingham TreePeople ran allweddol yn y rhaglen hon.
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
24-06-2025