Dewch yn Dref Natur neu'n Ddinas Natur
Mae'r fframwaith Trefi a Dinasoedd Natur wedi'i gynllunio i helpu trefi a dinasoedd ddod yn lleoedd ffyniannus, gwyrdd er budd yr holl drigolion a chymunedau. Dysgwch sut i gael eich achredu a chymerwch olwg ar yr adnoddau a’r cymorth sydd ar gael.
Gwneud cais am achrediad
Mae’r cynllun achredu Trefi a Dinasoedd Natur yn gwobrwyo trefi a dinasoedd sy’n rhoi natur wrth galon eu cynlluniau. Bydd gweithio drwy’r fframwaith yn eich helpu i gyflawni twf cynhwysol ar gyfer eich tref neu ddinas, gan gynllunio amgylchedd naturiol gwell a fydd yn helpu pobl, lleoedd a’r economi i ffynnu.
Mae’r lefel Sylfaenol yn canolbwyntio ar osod eich gweledigaeth, meithrin partneriaethau traws-sector cryf, a meddwl yn strategol am seilwaith gwyrdd. Bydd cyflawni’r lefel Uwch yn arwydd eich bod yn barod am fuddsoddiad, gyda phrosiectau wedi’u paratoi ar gyfer eu hariannu a’u cyflawni.
Pam gwneud cais?
Mae pobl yn wirioneddol gwerthfawrogi natur yn agos at adref. O ran eu milltir sgwâr, waeth sut maen nhw’n pleidleisio, mae’r mwyafrif yn dweud eu bod yn ymfalchïo fwyaf yn eu mannau gwyrdd lleol. Mae’r fframwaith achredu’n rhoi ffordd i chi ddarparu’r hyn mae eich cymunedau’n dymuno ei gael, gan ddod â buddion go iawn.
Wedi’i ddylunio i gynnal trawsnewid ar raddfa, bydd y fframwaith yn eich helpu i gynllunio sut y gall seilwaith gwyrdd a glas gyflawni ar flaenoriaethau’n cwmpasu iechyd cyhoeddus, gwydnwch hinsawdd, grymuso cymunedol ac adfer natur. A bydd yn eich helpu i fynd i’r afael â materion dybryd fel twf economaidd, teithio llesol, a sgiliau a chyflogaeth ieuenctid.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn ei gwneud hi’n haws i wneud newidiadau, yn helpu pawb i deimlo eu bod yn chwarae rhan, ac yn atgyfnerthu sgiliau. Gall awdurdodau lleol a chyrff sector cyhoeddus gynyddu eu cysylltiadau â chymunedau a phartneriaid, tra bod sefydliadau sector gwirfoddol a phreifat yn gallu chwarae rôl weithredol wrth lywio cyfeiriad strategol eu tref neu ddinas.
Bydd eich tref neu ddinas yn cael ei chydnabod am ei chynlluniau i gyflawni newid trefol ar raddfa tirwedd, a fydd yn eich helpu i gyflwyno achos ar gyfer buddsoddiad ac ennill cefnogaeth gan bartneriaid a’r cyhoedd.
Mae’r achrediad wedi’i lunio i roi sicrwydd i ddarpar gyllidwyr a buddsoddwyr bod eich tref neu ddinas yn barod i gyflawni newid uchelgeisiol. Bydd hyn yn helpu i ddenu cyllid ac arian gan ffynonellau cyhoeddus, preifat a haelionus.
Pwy all wneud cais a pha gymorth sydd ar gael
Gall partneriaethau o sefydliadau mewn tref neu ddinas wneud cais. Gall unrhyw sefydliad arwain y broses ymgeisio ar ran y partneriaid, er bod angen i’r awdurdod lleol perthnasol fod ynghlwm.
Mae llawer o gymorth ar gael. Gallwch gael mynediad at adnoddau, astudiaethau achos, mentora a chyngor arbenigol. Gallwch hefyd sgwrsio’n uniongyrchol â’n tîm achredu mewn sesiwn alw heibio bwrpasol a gynhelir yn fisol, i siarad drwy eich cais a chwrdd ag eraill sydd hefyd yn gweithio ar eu cais.
Sut i wneud cais
Gwyliwch ein gweminar 'dechrau arni'
O’r archif – gwyliwch ein tîm yn siarad drwy sut i ddechrau ar eich taith i ddod yn Dref neu’n Ddinas Natur.