Achrediad lefel un: Sylfaenol

Lefel un: Sylfaenol. Mae'r lefel hon o achrediad Trefi a Dinasoedd Natur yn eich helpu i sefydlu eich gweledigaeth, meithrin partneriaethau traws-sector a meddwl yn strategol am seilwaith gwyrdd. Mae tair adran, pob un ag adnoddau ategol i'ch helpu. Dysgwch am y camau awgrymedig i'w cymryd, y cyflawniadau disgwyliedig a sut i gyflwyno tystiolaeth o'ch gwaith.

Gwnewch gais am achrediad lefel un: Sylfaenol
A child plays table tennis on an outdoor table, which is sat under a tree, surrounded by Nature Towns and Cites urban nature butterfly icons.

Gosod eich gweledigaeth

Dewch â phartneriaid a rhanddeiliaid ynghyd i greu gweledigaeth uchelgeisiol, glir. Myfyriwch ar gynlluniau neu weledigaethau presennol posibl sydd gan sefydliadau ar wahân ac ystyriwch yr heriau a’r cyfleoedd mawr rydych eisiau mynd i’r afael â hwy yn y tymor canolig i’r tymor hir.

Chwyddwch y saethau i ganfod pa dystiolaeth sydd angen i chi ei chyflwyno ar gyfer pob adran, a dysgu am yr awgrymiadau da a’r adnoddau sydd ar gael.

Mae angen i hyn gynnwys:

  • eich uchelgais ar gyfer y dref neu ddinas
  • yr heriau mawr y mae angen i’r lle fynd i’r afael â hwy
  • y cyfleoedd ar gyfer trawsnewid, a’r sail resymegol drosto
  • cefnogaeth y prif noddwyr, hyrwyddwyr ac arweinwyr o fewn eich sefydliad a chyrff allweddol eraill
  • sut rydych wedi sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol hirdymor ar gyfer y weledigaeth.

Mae angen i hyn gynnwys:

  • pa bobl a grwpiau perthnasol o’r gymuned, busnesau a sefydliadau partner oedd ynghlwm
  • y dulliau a ddefnyddiwyd gennych i ymgysylltu â’r grwpiau hyn, plant a phobl ifanc yn benodol
  • pa mor effeithiol oedd yr ymgysylltiad
  • sut mae’r wybodaeth a gasglwyd wedi bwydo i mewn i’r weledigaeth.

  • Nodwch gefnogwyr posibl ar gyfer seilwaith gwyrdd, yn wleidyddol ac yn anwleidyddol, yn fewnol ac yn allanol. Sicrhewch gadarnhad swyddogol e.e. darn i’r camera neu ymrwymiad ysgrifenedig sy’n cefnogi’r weledigaeth
  • Meddyliwch am sut mae’r heriau mawr yn eich lle’n gysylltiedig â blaenoriaethau corfforaethol e.e. sero net, iechyd a llesiant, cyflogadwyedd a sgiliau ieuenctid, twf economaidd, teithio llesol, gwydnwch i’r hinsawdd
  • Ystyriwch sut rydych am ymgysylltu â phobl mewn modd cynhwysol ar draws y bartneriaeth e.e. drwy arolygon, cyfarfodydd cyhoeddus, llwyfannau ar-lein, paneli dinasyddion. Mae gan ein canllaw cynllunio ar y cyd lu o awgrymiadau hefyd
  • Dylech gynnwys plant a phobl ifanc drwy ysgolion a grwpiau ieuenctid. Cymerwch olwg ar ein canllaw i greu lleoedd a mannau gwyrdd gyda phobl ifanc am ragor o syniadau
  • Adolygwch allbynnau ymgysylltiad cyhoeddus perthnasol ar draws gwahanol adrannau e.e. ar hinsawdd, iechyd, natur, teithio
  • Ystyriwch ddatblygu damcaniaeth newid gyda mewnbynnau, gweithgareddau allweddol ac allbynnau i fynegi’n glir y newid rydych yn dymuno ei weld a sut rydych am ei gyflawni
  • Rhannwch y weledigaeth i ennyn diddordeb trawsbleidiol. Bydd hyn yn allweddol i gynllunio llywodraethu ac yn aml gall ddigwydd wrth i’r bartneriaeth gytuno ar brosesau gwneud penderfyniadau
  • Defnyddiwch egwyddorion Natural England ar gyfer ymgysylltu pobl â natur. Mae’r egwyddorion hyn yn cynnwys targedu, deall cymunedau, cyd-ddylunio a chyd-ddatblygu, gwerthuso a chynaliadwyedd.

Meithrin partneriaethau traws-sector, cryf

Adeiladwch ar eich partneriaethau presennol a chreu rhai newydd gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid, i helpu i wireddu’ch gweledigaeth gyffredin. Myfyriwch ar sut mae partneriaethau sy’n bodoli yn cyd-fynd â’r darlun mwy, dewch â phartneriaethau newydd i mewn er mwyn gwella eich galluoedd a ffurfioli sut rydych am gydweithio.

Bydd angen i hyn gynnwys manylion am:

  • y raddfa y maent yn gweithio arni e.e. lleol, rhanbarthol, cenedlaethol
  • crynodeb byr o rôl bob partner wrth wireddu’r weledigaeth
  • pa bartneriaethau sydd wedi’u ffurfioli a sut mae hyn yn gweithio (dylech gynnwys dolenni at gytundebau partneriaethau neu Femorandwm Dealltwriaeth lle bo’n briodol).

Bydd angen i hyn gynnwys manylion am:

  • sut cafodd y fframwaith ei gyd-ddylunio
  • rolau a chyfrifoldebau bob partner, yn cynnwys sut rydych i gyd am gydweithio ar heriau a chyfleoedd tref neu ddinas gyfan
  • llywodraethiant ar draws y bartneriaeth e.e. grwpiau llywio, byrddau
    y broses ar gyfer adolygu’r bartneriaeth wrth iddi ddatblygu.

  • Cymerwch olwg ar ein canllaw awdurdod lleol i weithio mewn partneriaeth i bobl a natur
  • Nodwch bartneriaid presennol a phartneriaid posibl o bob rhan o’ch lle (iechyd, teithio, bioamrywiaeth, hinsawdd, treftadaeth naturiol, trafnidiaeth, priffyrdd, grwpiau cymunedol, heddlu, prifysgolion, cwmnïau cyfleustodau, perchnogion tir, busnesau)
  • Ymchwiliwch i’r hyn sy’n bodoli eisoes o safbwynt darpariaeth a gweithgareddau cymunedol ac ystyriwch sut allwch chi ei gefnogi a’i wella
  • Meddyliwch am bwy y byddwch yn gweithio â hwy i ddatblygu’r weledigaeth – partneriaid strategol, partneriaid cyflawni, cymunedau a’r cyhoedd, rheolwyr/perchnogion tir
  • Meddyliwch yn gyfannol am fuddion y trawsnewid e.e. iechyd a llesiant, teithio llesol, gweithgarwch corfforol a chwarae, grymuso cymunedol, balchder mewn lle, diwylliant, treftadaeth, natur a bioamrywiaeth, gwydnwch ac addasu i’r hinsawdd
  • Cyd-ddyluniwch fframwaith ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a gwneud penderfyniadau – e.e. fforymau rheolaidd, bwrdd neu grŵp llywio traws-sector
  • Ffurfiolwch bartneriaethau lle bo’n briodol neu ystyriwch atodiadau i gytundebau partneriaeth presennol ar gyfer Trefi neu Ddinasoedd Natur
  • Cynlluniwch ar gyfer datblygiad y bartneriaeth drwy adolygiad parhaus a sut allech chi gyflwyno partneriaethau newydd yn y dyfodol
  • Ystyriwch eich dull o gyflawni gyda chymunedau drwy fodelau cyd-stiwardiaeth e.e. rhaglenni gwirfoddoli, trosglwyddo asedau, cyd-reoli mannau.

Meddwl yn strategol am seilwaith gwyrdd

Ewch ati i greu cynllun sy’n amlinellu sut rydych am ddatblygu a rheoli seilwaith gwyrdd a glas yn strategol i gyflawni buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Ystyriwch sut y gall wella ansawdd bywyd trigolion, a mynd i’r afael a heriau fel newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth ac iechyd cyhoeddus.

Mae angen i hyn gynnwys:

  • dadansoddiad data e.e. mapio GI, mapio tegwch amgylcheddol
  • amcanion a thargedau sy’n gysylltiedig â heriau a chyfleoedd unigryw y dref neu’r ddinas
  • sut mae Egwyddorion a Safonau GI Natural England wedi’u cymhwyso
  • sut mae’r strategaeth GI wedi’i dylunio ar y cyd â’r bartneriaeth a’r cymunedau
  • dolenni at bolisïau a strategaethau perthnasol sy’n bodoli
  • ystyriaeth i sgiliau, hyfforddiant a datblygiad staff a gwirfoddolwyr ar draws y bartneriaeth i gyflawni’r strategaeth
  • ystyriaeth i sut fydd y strategaeth yn cael ei hariannu a’i llywodraethu.

Bydd angen i hyn gynnwys manylion am:

  • sut mae cynigion wedi’u datblygu o’r strategaeth a sut cawsant eu llywio gan y weledigaeth, yr ymgysylltiad cymunedol a’r cyd-ddylunio â phartneriaid
  • trosolwg o’r amserlen gyflawni
  • dull o flaenoriaethu
  • pwy sy’n gyfrifol am bob gweithred.

Mae angen i hyn gynnwys:

  • eich dull cyffredinol o fesur cynnydd yn erbyn eich strategaeth
  • canlyniadau a nodau dymunol
  • dangosyddion canlyniadau i fesur cynnydd tuag at y canlyniadau/nodau.

  • Defnyddiwch y canllawiau a’r adnoddau sydd ar gael yn Fframwaith Seilwaith Gwyrdd Natural England i ddwyn tystiolaeth ynghyd ar draws y tri cham uchod
  • Gwyliwch ein fideo tiwtorial i ddysgu sut i ddefnyddio Cronfa Ddata Mapio’r Fframwaith
  • Gwyliwch ein fideo i ddysgu sut i ddefnyddio’r adnodd Sgôr Ecwiti Coed y DU er mwyn mapio buddion coed trefol i bobl a natur yn eich lle, ac adnabod cyfleoedd i wella
  • Meddyliwch am sut allai GI gael ei gyfuno i strategaethau a pholisïau presennol.

Dechrau arni

Lawrlwythwch gopi PDF o’r dystiolaeth sydd ei hangen i chi gael cyfeirio ato’n rhwydd. Defnyddiwch y llawlyfr i olrhain eich cynnydd neu i ysgrifennu nodiadau wrth i chi gasglu’r holl bethau rydych chi’n bwriadu eu cyflwyno.

A close-up of a purple wildflower with thin, spiky petals, standing out among a mix of white and yellow flowers.

Lefel dau: Uwch

Mae dwy lefel i achrediad. Lefel dau: Uwch. Mae’r lefel hon yn arwydd o barodrwydd am fuddsoddiad, gyda phrosiectau wedi’u paratoi ar gyfer eu hariannu a’u cyflawni.

Rhaid i’r holl ymgeiswyr yn gyntaf ennill achrediad lefel Sylfaenol cyn gwneud cais am achrediad lefel Uwch.

Two people walking through a grassy area in a park next to water.