A person running along a tree lined path in a park.
White illustration of tall grass resembling a lamp post.

Gwerth ac ariannu coedwig drefol

Canllaw Dechreuwch arni gyda... - 24-06-2025

Eich canllaw i ddangos gwir werth coed yn eich tref neu ddinas a denu ariannu sy’n cefnogi cynnal a thwf tymor hir.

Adfer natur - Coedwigaeth a choed

Gwarchod cyllid ac arian mannau gwyrdd trefol ar gyfer y dyfodol

Mae’n amser dechrau meddwl nawr ynghylch ffyrdd arloesol o ariannu ein coedwigoedd trefol a buddsoddi yn nyfodol pobl yn ein trefi a’n dinasoedd.

Wrth i’r angen cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol am goedwigoedd dinesig dinesig teg gynyddu, mae argaeledd ariannu cyhoeddus yn gostwng.

Mae’n golygu bod awdurdodau lleol a’u partneriaid yn wynebu heriau ariannol digynsail pan mae’n dod i reoli coed o blannu drwyddo i’w llawn dwf.

Mae’r canllaw hwn yn eich helpu i ddeall gwir werth eich coedwigoedd dinesig a datgloi arian a buddsoddiad ychwanegol ar gyfer cynnal a thyfu yn yr hir dymor. Byddwch yn barod i adeiladu ariannu cyfun a modelau ariannu newydd, lle mae arian cyhoeddus yn cael ei gefnogi gan ffynonellau eraill o ariannu dyngarol ac ariannu preifat.

Archwilio ein heriau ariannu

Yn hanesyddol mae awdurdodau lleol wedi ariannu eu coedwigoedd dinesig drwy arian cyhoeddus gyda chefnogaeth gan grantiau. Ond mae heriau ariannol a logistaidd allweddol yn gwneud hyn yn fwy a mwyn anodd.

Cymerwch gipolwg ar rai o’r heriau yn y tymor hir a’r tymor byr.

Gallwch ganfod mwy ynghylch yr heriau mae’r sector coedwigaeth ddinesig yn eu hwynebu a sut mae gwahanol sefydliadau’n gweithio i’w goresgyn mewn astudiaeth achos gan The Mersey Forest Community Forest a Finance Earth.

  • Gostyngiadau parhaus a phwysau ar gyllidebau
  • Mae costau cynyddol yn rhoi pwysau ychwanegol ar gyllidebau cyfyngedig
  • Mae coed yn aml yn cael eu gweld fel eitemau sy’n rhwym wrth gost yn hytrach nag asedau
  • Mae diffyg ariannu wedi’i neilltuo ar gyfer coed yn golygu bod cyllidebau coedwig ddinesig yn cael eu torri
  • Mae cystadleuaeth gynyddol am arian grant

  • Gall y daith o blannu i sefydlu i gynnal fod yn un gostus
  • Mae cyllidebau cyhoeddus sy’n gostwng yn golygu bod llai o ariannu ar gael
  • Gall cyflenwad coed sy’n heneiddio a’r defnydd a wneir o dir leihau’r coed yn yr ardal yn sylweddol
  • Mae newid hinsawdd yn cynyddu risgiau gan blâu, afiechydon a thywydd eithafol
  • Mae ariannu preifat yn aml yn blaenoriaethu plannu dros gynnal a chadw tymor hir
  • Dyw prosiectau seilwaith gwyrdd ar raddfa fach ddim yn eistedd yn naturiol o fewn strwythurau ariannu preifat arferol

Asesu mwy o ffynonellau ariannu

Ni fydd yr heriau hyn yn mynd i ffwrdd. Felly beth allwch chi ei wneud yn wahanol er mwyn helpu i bontio’r bwlch ariannu seilwaith gwyrdd trefol yn y tymor hir?

Un opsiwn yw model ariannu cyfun lle gallwch chi ychwanegu at ariannu cyhoeddus gyda nifer o ffynonellau incwm eraill. Gall helpu i sicrhau eich prosiectau coed ar gyfer y dyfodol a galluogi buddsoddwyr i fodloni eu Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a’u nodau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu. Gan y bydd gan bob math o fuddsoddwr posib wahanol gymhelliant, mae’n bwysig deall y rhain cyn i chi ddechrau chwilio am fuddsoddiad yn eich seilwaith gwyrdd dinesig.

Adnoddau er mwyn meintioli eich asedau dinesig naturiol

Drwy gyfrifo gwerth ariannol coedwig drefol, gall awdurdodau lleol a’u partneriaid osod y sylfeini ar gyfer cymryd penderfyniadau yn seiliedig ar wybodaeth a strategaethau buddsoddi wedi’u targedu ar gyfer pobl a llefydd. Dyma rai enghreifftiau o sut i wneud hyn.

Prifgynllunio yn Birmingham

Gweithiodd Cyngor Dinas Birmingham gyda Treeconomics er mwyn amcangyfrif y costau a’r buddion o’u coedwig drefol, yn seiliedig ar ymyriadau a amlinellir yn eu Prif Gynllun Coedwig Drefol .

Darllen yr adroddiad buddion cost
Darllen yr adroddiad buddion cost
A person leaning over to plant a blossom tree.

Arolwg Eco i-Tree

Fe wnaeth y Black Country Consortium ac Awdurdod Cyfunol Gorllewin Canolbarth Lloegr (WMCA) gynnal ymarferion gwerthuso tebyg gan ddefnyddio arolygon Eco i-Tree. Aethant ati i gyfrifo cyfanswm gwerth coedwig ddinesig Gorllewin Canolbarth Lloegr yn £73.25 biliwn.

Darllenwch Arolwg Eco i-Tree WMCA
Darllenwch Arolwg Eco i-Tree WMCA
A luscious garden with lots of foliage and flowers, with a person leaning through the plants, gardening

Gwerth Ased Cyfalaf ar gyfer Coed Amwynder

Mae Gwerth Ased Cyfalaf ar gyfer Coed Amwynder (CAVAT) yn trin coed fel asedau cyhoeddus gwerthfawr gan eu gwerthuso yn seiliedig ar eu cost o’u hamnewid. Dewch o hyd i set gynhwysfawr o adnoddau ar wefan London Tree Officers Association.

Cymerwch olwg ar yr adnoddau
Cymerwch olwg ar yr adnoddau
Two people walking through a grassy area in a park next to water.

Pecyn Cymorth Gwerthusiad Seilwaith Gwyrdd (GI-VAL)

Mae’r pecyn cymorth Gwerthuso Seilwaith Gwyrdd yn rhoi cyfres o adnoddau cyfrifo sy’n asesu gwerth ased gwyrdd neu fuddsoddiad gwyrdd arfaethedig. Mae hefyd yn rhoi gwerth economaidd buddion seilwaith gwyrdd pryd bynnag y mae’n gallu.

Mynd i’r wefan
Mynd i’r wefan
A bag of shredded bark.

Sgôr Tegwch Coed y DU

Mae’r adnodd Sgôr Tegwch Coed y DU am ddim sydd wedi’i ddatblygu ar y cyd gan Coed Cadw, yn galluogi llefydd i adnabod meysydd o annhegwch. Mae’n rhoi sgôr ar lefel cymdogaeth ac yn tynnu sylw at ardaloedd lle mae pobl angen coed fwyaf.

Ewch draw i’r adnodd tegwch coed
Ewch draw i’r adnodd tegwch coed
A flowering tee.

Y prosiect IGNITION

Datblygodd y prosiect IGNITION datrysiadau buddsoddi arloesol ar gyfer amgylchedd naturiol Manceinion Fwyaf. Gall ei gronfa ddata tystiolaeth coed stryd roi syniad i chi o’r gwasanaethau ecosystem y gall coed stryd eu darparu.

Darganfyddwch IGNITION
Darganfyddwch IGNITION
A group of people standing in the middle of flats look at a garden.

Canllaw 10 cam i werthuso ac ariannu eich coedwig drefol

Mae’r canllaw hwn yn rhannu eich taith ariannu yn gamau hawdd eu dilyn - gan gynnwys gwerthuso eich asedau dinesig, adeiladu achos buddsoddi cryf, ac ymgysylltu gydag arianwyr y dyfodol.

Gallwch hefyd lawrlwytho pecyn cymorth ynghylch opsiynau arian preifat ar gyfer gwaith gwyrddio trefol. Byddwch yn canfod sut i adnabod gwasanaethau ecosystem posib mannau gwyrdd neu las ehangach, a deall ystyriaethau pwysig wrth feintioli a gwerthu’r rhain i brynwyr. Mae’n cael ei gefnogi gan Siart Llif Ariannu Gwyrdd, gydag argymhellion ar brosesau casglu data a chanllawiau ynghylch pa gefnogaeth arbenigol arall allech chi fod ei angen.

Gallech ddechrau drwy ddefnyddio un o’r adnoddau uchod er mwyn cynnal cyfrifo cyfalaf naturiol a chyfrifo gwerth eich asedau trefol naturiol. Gall gorchudd canopi ei ddefnyddio i amcangyfrif gwerth coed a graddfa tref neu ddinas, tra mae asesiad yn seiliedig ar blot yn fwy priodol ar gyfer ardaloedd llai, a CAVAT ar gyfer coed unigol.

Defnyddiodd Forest Research gyfuniad o fethodolegau i-Tree Canopy, CAVAT a Chyfrifyddu Cyfalaf Naturiol er mwyn cyfrifo gwerth coed yn y DU sydd heb fod mewn coedwig.

Mae’n syniad da i ofyn am gefnogaeth arbenigol wrth benderfynu pa adnodd sydd orau i chi.

Gall cynnwys rhagwelediad gryfhau eich achos drwy gyflwyno dau senario buddsoddi. Ar y naill law, mae’n amlinellu gwerth posib eich seilwaith gwyrdd yn seiliedig ar ymyraethau a senarios penodol Ar y llaw arall, mae’n rhoi mewnwelediad i sut allai diffyg buddsoddiad gael effaith ar bobl a llefydd.

Mae’r fethodoleg gafodd ei phrofi gan Treeconomics ar gyfer gwerthuso senarios twf gyda Chyngor Dinas Birmingham yn enghraifft o hyn. Datguddiodd eu dadansoddiad:

  • Gyda buddsoddiad, y byddai yna amcangyfrif o £10m yn ychwanegol mewn buddion gwasanaeth ecosystem blynyddol pe bai pob ward yn cynyddu gorchudd canopi o 25% erbyn 2051.
  • Heb fuddsoddiad sylweddol, byddai colled ragweladwy o 65,000 o goed ar draws Birmingham erbyn 2051 (gyda’r rhan fwyaf o’r coed yn cael eu colli mewn ardaloedd sydd eisoes gyda’r rhai mwyaf llwyd).

Defnyddio data amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn deall yn union beth mae pobl ei angen yn eich tref neu ddinas. Mae Cronfa Ddata Mapio seilwaith Gwyrdd Natural England yn cynnwys amrywiaeth o setiau data economaidd-gymdeithasol a mynediad, ond mae’n bosib y byddwch hefyd am ystyried defnyddio data amgylcheddol penodol.

Mae Asesiad Agored i Niwed gan Risg Hinsawdd Cyngor Dinas Birmingham yn defnyddio data sy’n cynnwys risg llygredd, tymheredd arwyneb a llifogi er mwyn adnabod lle mae’r angen mwyaf yn y ddinas. Mae’r mapio hwn yn adeiladu ar waith Cyngor Dinas Birmingham ar gyfiawnder amgylcheddol fel rhan o’r rhaglen Cyflymydd Parciau’r Dyfodol.

Unwaith rydych wedi adnabod anghenion allweddol cymunedau lleol (e.e. llifogi, gwres a llygredd), symudwch ymlaen i gam 4 er mwyn penderfynu sut allai seilwaith gwyrdd fynd i’r afael gyda’r problemau hyn (e.e. lliniaru risg llifogi, lleihau gwres a gwella ansawdd aer).

Asesu pa fath a lefel o fuddion sy’n cael eu darparu gan seilwaith gwyrdd trefol yr eiliad hon ac ystyried pa brosiectau y gallech chi eu darparu yn y dyfodol er mwyn gwella ac ymestyn y buddion yma.

Ar y cam hwn, rydych angen meddwl am sut y byddwch yn gwerthuso gwasanaethau ecosystem a ddarperir gan eich coedwig drefol a dechrau dadansoddi hyn yn erbyn proffil cost/buddion arferol coed trefol. Bydd hyn yn eich helpu i adnabod y marchnadoedd gwasanaeth ecosystem mwyaf priodol sy’n bodoli eisoes a’r modelau ariannu ar gyfer eich prosiectau gwyrddu trefol.

Adnabod ardaloedd trefol a allai gael eu helpu fwyaf gan seilwaith gwyrdd ychwanegol ac ystyried pa brosiectau fyddai fwyaf effeithiol wrth ehangu’r buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gyfer cymunedau sy’n byw yno.

Darllenwch am werthuso’r gwasanaethau ecosystem a ddarperir gan seilwaith gwyrdd, a deall anghenion prynwyr yn ein Pecyn Cymorth Gwyrddio Trefol ar gyfer Ariannu Preifat. Mae’r adroddiad hwn yn archwilio’r heriau o ddarparu gwasanaethau ecosystem mewn amgylcheddau trefol dwys, lle gall graddfa strwythurau gwyrdd fod yn gyfyngedig.

Defnyddio adnodd modelu cost er mwyn gweld beth fyddai’r gost ar lefel prosiect unigol. Gallwch wedyn ddefnyddio’r data a gasglwyd er mwyn amcangyfrifo’r costau sy’n gysylltiedig ar lefel rhaglen plannu coedwig drefol ar hyd a lled y ddinas.

Penderfynwch pa ddeilliannau rydych chi’n eu hyrwyddo a sut rydych chi’n mynd i’w moneteiddio.

Rhoi hyder ychwanegol i arianwyr preifat drwy adnabod metrigau addas a methodolegau meintioliad trylwyr sy’n arddangos cryfderau’r deilliannau maent yn buddsoddi ynddynt.

Darllenwch am daliadau ar gyfer modelau gwasanaeth ecosystem yn ein Pecyn Cymorth Gwyrddio Trefol ar gyfer Ariannu Preifat a chael mewnwelediad i fodelau ariannu newydd a allai helpu i sianelu ariannu preifat i mewn i brosiectau coedwigaeth drefol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod i dderbyn a dosbarthu unrhyw arian sy’n cael ei fuddsoddi. Dyma rai cwestiynau defnyddiol y gallwch eu gofyn i chi’ch hun:

  • Pwy yw’r corff cyfrifol (gallai hwn fod yn awdurdod lleol, cwmni annibynnol, elusen neu gerbyd pwrpas arbennig)?
  • Sut fyddwch chi’n derbyn ac yn neilltuo arian? A yw eich corff cyfrifol chi yn gallu neilltuo arian? Gall awdurdodau lleol gael cyfyngiadau ar godi arian a gwario, felly ydych chi wedi eich sefydlu i ddenu a defnyddio cyllid yn hyblyg?
  • Pwy fydd yn gwneud penderfyniadau (ynghylch sut mae’r arian yn cael ei wario, pwy sy’n cyflawni’r gwaith a lle mae unrhyw elw’n mynd)?
  • Sut fyddwch chi’n dilysu safonau? Ydych chi angen meintioli’r deilliannau a ddarparwyd a sicrhau ansawdd prosiectau? Pa adnodd fyddwch chi’n ei ddefnyddio i wneud hyn?

Datblygu deunyddiau ymgysylltu er mwyn helpu i ddechrau sgyrsiau ystyrlon gydag arianwyr posib.

Gallai’r rhain gynnwys y dulliau canlynol:

  • Cyfathrebu buddion cefnogi coed sy’n bodoli eisoes
  • Addysgu buddsoddwyr ynghylch buddion ehangach seilwaith gwyrdd
  • Tynnu sylw at y gwasanaethau ecosystem meintiol mae’r prosiectau’n eu darparu
  • Dychmygu beth fydd yn newid gyda chefnogaeth yr ariannwr
  • Pwysleisio pa fuddion fydd arianwyr yn eu derbyn

Meddyliwch am ffyrdd y gallwch wneud y gorau o’ch partneriaeth a defnyddio modelau buddsoddi er mwyn cynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i ardal. Er enghraifft:

  • Gwneud taliadau i breswylwyr am reoli coed
  • Neilltuo rhan o’r buddsoddiad ar gyfer rhaglenni sgiliau lleol a chyfleoedd cyflogaeth er mwyn rheoli coed
  • Adeiladu partneriaethau er mwyn buddsoddi ar y cyd mewn seilwaith gwyrdd a thai mewn lleoliad penodol.
  • Buddsoddi mewn rhaglenni rhagnodi cymdeithasol ochr yn ochr gydag ymyriadau seilwaith gwyrdd

 

Mwy gan y rhaglen Cyflymydd Coedwig Drefol

Mae’r canllawiau hyn yn rhan o gyfres o adnoddau a grëwyd gan y rhaglen Cyflymydd Coedwig Drefol. Mae’r testun ar y dudalen we yma yn cael ei drwyddedu gan y rhaglen Cyflymydd Coedwig Drefol o dan CC drwy 4.0. Darganfyddwch fwy ynghylch sut allwn ni greu coedwigoedd trefol tecach yn ein trefi a dinasoedd gyda’u hadnoddau eraill isod neu drwy’r ddolen hon. Roedd y rhaglen yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Fforest Gymunedol ac Ymddiriedolaeth Coed Cadw, ac yn cael ein hariannu gan gronfa Trees Call to Action Fund. Cafodd y gronfa hon ei datblygu gan DEFRA mewn partneriaeth gyda’r Comisiwn Coedwigaeth ac mae’n cael ei darparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch yn arbennig i Gyngor Dinas Birmingham a Birmingham TreePeople.

Astudiaeth Achos Canllaw Dechreuwch arni gyda... - 24-06-2025

Creu prif gynllun coedwig drefol

Astudiaethau achos ac adnoddau er mwyn helpu i drawsnewid eich agweddu tuag at gynllunio a rheoli coedwig drefol, gan ddarparu buddion teg i bobl a byd natur.

Adfer natur, Gwydnwch hinsawdd - Coedwigaeth a choed

Astudiaeth Achos Canllaw Dechreuwch arni gyda... - 24-06-2025

Tyfwch goedwig drefol deg

Ysbrydoliaeth, canllawiau ac adnoddau i ddatgloi buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol coedwigoedd trefol ar gyfer pawb, gan ddefnyddio egwyddor tegwch coed.

Adfer natur, Cymunedau, Gwirfoddoli, Gwydnwch hinsawdd, Iechyd a llesiant - Coedwigaeth a choed, Ymgysylltiad cymunedol

Astudiaeth Achos Gweminar - 24-06-2025

Coedwigoedd trefol i bawb

O’r archif - ystyriodd y weminar hon sut allwn ni greu coedwigoedd trefol tecach yn ein trefi a dinasoedd a lansio’r Pecyn Cymorth Cyflymu Coedwigoedd Trefol. Gwyliwch y recordiad a lawrlwythwch y cynnwys a rannwyd.

Ariannu a chyllid, Cymunedau - Coedwigaeth a choed, Ymgysylltiad cymunedol

Astudiaeth Achos Gweminar - 24-06-2025

Coedwigoedd trefol i bawb

O’r archif - ystyriodd y weminar hon sut allwn ni greu coedwigoedd trefol tecach yn ein trefi a dinasoedd a lansio’r Pecyn Cymorth Cyflymu Coedwigoedd Trefol. Gwyliwch y recordiad a lawrlwythwch y cynnwys a rannwyd.

Ariannu a chyllid, Cymunedau - Coedwigaeth a choed, Ymgysylltiad cymunedol