Trefi a Dinasoedd Byd Natur Swyddogol
Trefi a dinasoedd sy'n trawsnewid ar gyfer pobl a natur.
Dysgwch fwy am achreduDinasoedd Byd Natur
Dinas Plymouth
Mae gwobr Plymouth yn cydnabod sut mae’r cyngor yn cynnwys cymunedau yn eu gwaith i wella a chynyddu mannau gwyrdd a natur ledled y ddinas, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Mae ymgysylltu ac ymgynghori â’r cyhoedd wedi bod yn ganolog i ddatblygiad Cynllun Pobl a Natur uchelgeisiol y ddinas. Wedi’i gyhoeddi ym mis Tachwedd 2025, mae’r cynllun yn cymryd dull traws-sector, gyda strategaeth ariannu arloesol a chadarn.
Bydd y wobr hon yn helpu’r Cyngor a’i bartneriaid gael gwell mynediad at gyfleoedd am fuddsoddiad yn y dyfodol ar lefel genedlaethol, gan sicrhau bod mannau gwyrdd a glas y ddinas yn cael digon o ddefnydd ac y gofalir amdanynt am flynyddoedd i ddod.
Dywedodd y Cynghorydd Tom Briars-Delve, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a Newid yn yr Hinsawdd: “Mae’r dynodiad hwn yn anrhydedd i’n dinas ac yn adlewyrchu taith wirioneddol i’r Cyngor. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweithio’n ddiflino gyda’n cymunedau a’n partneriaid i adeiladu momentwm ymysg ein prosiectau natur.
P’un a yw’n Gymunedau Gwyrdd, y Goedwig Gymunedol neu Barc Morol Cenedlaethol Swnt Plymouth, rydym wedi sicrhau bod cymunedau wedi bod yn ystyriaeth bwysig yn ein penderfyniadau. Y Cynllun Pobl a Natur yw darn olaf y jig-so ac rwyf yn falch iawn o’r gydnabyddiaeth swyddogol hon o uchelgais a photensial Plymouth.”
© Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Trevor Ray Hart
Trefi Byd Natur
Dinas Birmingham
Yn Birmingham, ymunodd Cyngor y Ddinas â chymunedau lleol, grwpiau, sefydliadau amgylcheddol a phartneriaid cenedlaethol i ddod yn Ddinas Natur swyddogol. Mae’r garreg filltir hon yn cydnabod dull uchelgeisiol a chynhwysol y ddinas i gynnwys natur mewn bywyd bob dydd, gan wneud mannau gwyrdd yn fwy hygyrch, teg, a chanolog i gynllunio trefol.
Mae ymrwymiad Birmingham i osod natur yng nghanol bywyd bob dydd wedi’i nodi yn ei chynllun uchelgeisiol Dinas Natur, gyda’r syniad bod mynediad at natur yn hawl ac nid yn fraint yn y bôn.
Dywedodd y Cynghorydd Majid Mahmood, aelod cabinet dros yr amgylchedd a thrafnidiaeth: “Drwy ein Cynllun Dinas Natur 25 mlynedd, rydym wedi gosod fframwaith cadarn ar gyfer trawsnewid sut mae natur yn cael ei gwerthfawrogi a’i hintegreiddio ledled Birmingham. Rydym wir yn arwain y ffordd o ran creu ac adfer natur drefol ac yn un o’r dinasoedd mwyaf gwyrdd yn Ewrop.
Rydym yn gweithio gyda grwpiau cymunedol fel Birmingham Tree People i blannu coed mewn ardaloedd yng nghanol y ddinas fel Alum Rock, ac mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, rydym wedi datblygu parciau poced ar draws cymdogaethau. Mannau gwyrdd bach ond effeithiol yw’r rhain sy’n dod â natur i garreg drws pobl wrth gefnogi lles, bioamrywiaeth a balchder cymunedol.”
© Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / James Dobson
Trefi Natur
Bournemouth, Christchurch a Poole
Mae Bournemouth, Christchurch a Poole i gyd wedi dod yn Drefi Natur. Mae’r wobr yn cydnabod ymroddiad Cyngor BCP ochr yn ochr â’i bartneriaid i drawsnewid bywyd ei gymunedau drwy ddarparu gwell natur a mannau gwyrdd a mwy ohonynt.
Mae Cyngor BCP wedi ymrwymo i weithio law yn llaw â phartneriaid i ddod â natur i galon cymunedau, gan adeiladu ar waith blaenorol fel y gwaith gyda’r Parks Foundation i drawsnewid parciau trefol ar gyfer pobl a natur. Byddant yn cysylltu mannau gwyrdd ar draws y dirwedd gyfan, gan ddarparu mwy o bethau i’w gwneud a chreu mannau gwyrdd amlswyddogaethol y gall cymunedau cyfan eu mwynhau – o barciau cymunedol gyda chaffis, i randiroedd a gerddi llai.
Dywedodd y Cynghorydd Andy Hadley, deiliad portffolio ymateb i’r hinsawdd, ynni a’r amgylchedd yng Nghyngor BCP: “Mae’n wych gweld ein huchelgeisiau a’n harloesedd yn cael eu cydnabod ar lefel genedlaethol – yn enwedig wrth i ni barhau i fuddsoddi mewn gwella mynediad at natur i’n holl drigolion. A bydd derbyn y gydnabyddiaeth hon yn ein helpu ni i wneud hynny.
Rydym yn ffodus o gael mannau gwyrdd anhygoel ar draws ein tair tref ac mae mor bwysig ein bod yn eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae ein timau gweithrediadau parciau a chefn gwlad yn gweithio’n wych i gynnal ac adfer ein mannau naturiol helaeth ac mae’r achrediad hwn yn gydnabyddiaeth haeddiannol o hynny.”