Achrediad lefel un: Sylfaenol
Lefel un: Sylfaenol. Mae'r lefel hon o achrediad Trefi a Dinasoedd Natur yn eich helpu i sefydlu eich gweledigaeth, meithrin partneriaethau traws-sector a meddwl yn strategol am seilwaith gwyrdd. Mae tair adran, pob un ag adnoddau ategol i'ch helpu. Dysgwch am y camau awgrymedig i'w cymryd, y cyflawniadau disgwyliedig a sut i gyflwyno tystiolaeth o'ch gwaith.
Gwnewch gais am achrediad lefel un: Sylfaenol
Gosod eich gweledigaeth
Dewch â phartneriaid a rhanddeiliaid ynghyd i greu gweledigaeth uchelgeisiol, glir. Myfyriwch ar gynlluniau neu weledigaethau presennol posibl sydd gan sefydliadau ar wahân ac ystyriwch yr heriau a’r cyfleoedd mawr rydych eisiau mynd i’r afael â hwy yn y tymor canolig i’r tymor hir.
Chwyddwch y saethau i ganfod pa dystiolaeth sydd angen i chi ei chyflwyno ar gyfer pob adran, a dysgu am yr awgrymiadau da a’r adnoddau sydd ar gael.
Mae angen i hyn gynnwys:
- eich uchelgais ar gyfer y dref neu ddinas
- yr heriau mawr y mae angen i’r lle fynd i’r afael â hwy
- y cyfleoedd ar gyfer trawsnewid, a’r sail resymegol drosto
- cefnogaeth y prif noddwyr, hyrwyddwyr ac arweinwyr o fewn eich sefydliad a chyrff allweddol eraill
- sut rydych wedi sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol hirdymor ar gyfer y weledigaeth.
Mae angen i hyn gynnwys:
- pa bobl a grwpiau perthnasol o’r gymuned, busnesau a sefydliadau partner oedd ynghlwm
- y dulliau a ddefnyddiwyd gennych i ymgysylltu â’r grwpiau hyn, plant a phobl ifanc yn benodol
- pa mor effeithiol oedd yr ymgysylltiad
- sut mae’r wybodaeth a gasglwyd wedi bwydo i mewn i’r weledigaeth.
- Nodwch gefnogwyr posibl ar gyfer seilwaith gwyrdd, yn wleidyddol ac yn anwleidyddol, yn fewnol ac yn allanol. Sicrhewch gadarnhad swyddogol e.e. darn i’r camera neu ymrwymiad ysgrifenedig sy’n cefnogi’r weledigaeth
- Meddyliwch am sut mae’r heriau mawr yn eich lle’n gysylltiedig â blaenoriaethau corfforaethol e.e. sero net, iechyd a llesiant, cyflogadwyedd a sgiliau ieuenctid, twf economaidd, teithio llesol, gwydnwch i’r hinsawdd
- Ystyriwch sut rydych am ymgysylltu â phobl mewn modd cynhwysol ar draws y bartneriaeth e.e. drwy arolygon, cyfarfodydd cyhoeddus, llwyfannau ar-lein, paneli dinasyddion. Mae gan ein canllaw cynllunio ar y cyd lu o awgrymiadau hefyd
- Dylech gynnwys plant a phobl ifanc drwy ysgolion a grwpiau ieuenctid. Cymerwch olwg ar ein canllaw i greu lleoedd a mannau gwyrdd gyda phobl ifanc am ragor o syniadau
- Adolygwch allbynnau ymgysylltiad cyhoeddus perthnasol ar draws gwahanol adrannau e.e. ar hinsawdd, iechyd, natur, teithio
- Ystyriwch ddatblygu damcaniaeth newid gyda mewnbynnau, gweithgareddau allweddol ac allbynnau i fynegi’n glir y newid rydych yn dymuno ei weld a sut rydych am ei gyflawni
- Rhannwch y weledigaeth i ennyn diddordeb trawsbleidiol. Bydd hyn yn allweddol i gynllunio llywodraethu ac yn aml gall ddigwydd wrth i’r bartneriaeth gytuno ar brosesau gwneud penderfyniadau
- Defnyddiwch egwyddorion Natural England ar gyfer ymgysylltu pobl â natur. Mae’r egwyddorion hyn yn cynnwys targedu, deall cymunedau, cyd-ddylunio a chyd-ddatblygu, gwerthuso a chynaliadwyedd.
Meithrin partneriaethau traws-sector, cryf
Adeiladwch ar eich partneriaethau presennol a chreu rhai newydd gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid, i helpu i wireddu’ch gweledigaeth gyffredin. Myfyriwch ar sut mae partneriaethau sy’n bodoli yn cyd-fynd â’r darlun mwy, dewch â phartneriaethau newydd i mewn er mwyn gwella eich galluoedd a ffurfioli sut rydych am gydweithio.
Bydd angen i hyn gynnwys manylion am:
- y raddfa y maent yn gweithio arni e.e. lleol, rhanbarthol, cenedlaethol
- crynodeb byr o rôl bob partner wrth wireddu’r weledigaeth
- pa bartneriaethau sydd wedi’u ffurfioli a sut mae hyn yn gweithio (dylech gynnwys dolenni at gytundebau partneriaethau neu Femorandwm Dealltwriaeth lle bo’n briodol).
Bydd angen i hyn gynnwys manylion am:
- sut cafodd y fframwaith ei gyd-ddylunio
- rolau a chyfrifoldebau bob partner, yn cynnwys sut rydych i gyd am gydweithio ar heriau a chyfleoedd tref neu ddinas gyfan
- llywodraethiant ar draws y bartneriaeth e.e. grwpiau llywio, byrddau
y broses ar gyfer adolygu’r bartneriaeth wrth iddi ddatblygu.
- Cymerwch olwg ar ein canllaw awdurdod lleol i weithio mewn partneriaeth i bobl a natur
- Nodwch bartneriaid presennol a phartneriaid posibl o bob rhan o’ch lle (iechyd, teithio, bioamrywiaeth, hinsawdd, treftadaeth naturiol, trafnidiaeth, priffyrdd, grwpiau cymunedol, heddlu, prifysgolion, cwmnïau cyfleustodau, perchnogion tir, busnesau)
- Ymchwiliwch i’r hyn sy’n bodoli eisoes o safbwynt darpariaeth a gweithgareddau cymunedol ac ystyriwch sut allwch chi ei gefnogi a’i wella
- Meddyliwch am bwy y byddwch yn gweithio â hwy i ddatblygu’r weledigaeth – partneriaid strategol, partneriaid cyflawni, cymunedau a’r cyhoedd, rheolwyr/perchnogion tir
- Meddyliwch yn gyfannol am fuddion y trawsnewid e.e. iechyd a llesiant, teithio llesol, gweithgarwch corfforol a chwarae, grymuso cymunedol, balchder mewn lle, diwylliant, treftadaeth, natur a bioamrywiaeth, gwydnwch ac addasu i’r hinsawdd
- Cyd-ddyluniwch fframwaith ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a gwneud penderfyniadau – e.e. fforymau rheolaidd, bwrdd neu grŵp llywio traws-sector
- Ffurfiolwch bartneriaethau lle bo’n briodol neu ystyriwch atodiadau i gytundebau partneriaeth presennol ar gyfer Trefi neu Ddinasoedd Natur
- Cynlluniwch ar gyfer datblygiad y bartneriaeth drwy adolygiad parhaus a sut allech chi gyflwyno partneriaethau newydd yn y dyfodol
- Ystyriwch eich dull o gyflawni gyda chymunedau drwy fodelau cyd-stiwardiaeth e.e. rhaglenni gwirfoddoli, trosglwyddo asedau, cyd-reoli mannau.
Meddwl yn strategol am seilwaith gwyrdd
Ewch ati i greu cynllun sy’n amlinellu sut rydych am ddatblygu a rheoli seilwaith gwyrdd a glas yn strategol i gyflawni buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Ystyriwch sut y gall wella ansawdd bywyd trigolion, a mynd i’r afael a heriau fel newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth ac iechyd cyhoeddus.
Mae angen i hyn gynnwys:
- dadansoddiad data e.e. mapio GI, mapio tegwch amgylcheddol
- amcanion a thargedau sy’n gysylltiedig â heriau a chyfleoedd unigryw y dref neu’r ddinas
- sut mae Egwyddorion a Safonau GI Natural England wedi’u cymhwyso
- sut mae’r strategaeth GI wedi’i dylunio ar y cyd â’r bartneriaeth a’r cymunedau
- dolenni at bolisïau a strategaethau perthnasol sy’n bodoli
- ystyriaeth i sgiliau, hyfforddiant a datblygiad staff a gwirfoddolwyr ar draws y bartneriaeth i gyflawni’r strategaeth
- ystyriaeth i sut fydd y strategaeth yn cael ei hariannu a’i llywodraethu.
Bydd angen i hyn gynnwys manylion am:
- sut mae cynigion wedi’u datblygu o’r strategaeth a sut cawsant eu llywio gan y weledigaeth, yr ymgysylltiad cymunedol a’r cyd-ddylunio â phartneriaid
- trosolwg o’r amserlen gyflawni
- dull o flaenoriaethu
- pwy sy’n gyfrifol am bob gweithred.
Mae angen i hyn gynnwys:
- eich dull cyffredinol o fesur cynnydd yn erbyn eich strategaeth
- canlyniadau a nodau dymunol
- dangosyddion canlyniadau i fesur cynnydd tuag at y canlyniadau/nodau.
- Defnyddiwch y canllawiau a’r adnoddau sydd ar gael yn Fframwaith Seilwaith Gwyrdd Natural England i ddwyn tystiolaeth ynghyd ar draws y tri cham uchod
- Gwyliwch ein fideo tiwtorial i ddysgu sut i ddefnyddio Cronfa Ddata Mapio’r Fframwaith
- Gwyliwch ein fideo i ddysgu sut i ddefnyddio’r adnodd Sgôr Ecwiti Coed y DU er mwyn mapio buddion coed trefol i bobl a natur yn eich lle, ac adnabod cyfleoedd i wella
- Meddyliwch am sut allai GI gael ei gyfuno i strategaethau a pholisïau presennol.
Lefel dau: Uwch
Mae dwy lefel i achrediad. Lefel dau: Uwch. Mae’r lefel hon yn arwydd o barodrwydd am fuddsoddiad, gyda phrosiectau wedi’u paratoi ar gyfer eu hariannu a’u cyflawni.
I wneud cais am lefel Uwch, rhaid i bob ymgeisydd ddod yn lefel Uwch achrededig yn gyntaf.