A pond with a lawn, trees and housing in the background
White illustration of a tree resembling a cog.

Dewch i gwrdd â: Katy Hawkins

12-08-2025

Bywydau gwyllt trefol

Dewch i gwrdd â'r unigolyn sy'n hyrwyddo tegwch coed yng nghanol dinas Birmingham, gan dyfu buddion coedwigoedd trefol lle mae angen hynny fwyaf.
Cymunedau - Coedwigaeth a choed

Sgwrs gyda

Katy Hawkins

Arweinydd Cymunedol, Birmingham TreePeople

Rhan o

Bywydau gwyllt trefol

Yn y gyfres hon o gyfweliadau, mae arbenigwyr trefol yn rhannu eu profiadau, eu hawgrymiadau a’u syniadau i helpu mwy o bobl i fwynhau amser ym myd natur yn agos i’w cartrefi. Dewch y tu ôl i’r llenni gyda thimau awdurdodau lleol, arweinwyr y sector a sefydliadau cymunedol sydd ar genhadaeth i sicrhau newid parhaol ledled y DU.

Mwy ynghylch Bywydau gwyllt trefol
Mwy ynghylch Bywydau gwyllt trefol
A gnome in front of a plant in a pot.

Ystyr coed

Mae’r cysylltiad rhwng pobl a choed wedi’i wreiddio’n ddwfn. O symbol diwylliannol i gynhaliwr bywyd gwyllt gwych, llecyn cysgodol i fan chwarae, mae sawl ystyr posibl i un goeden.

Maen nhw’n cynnig llawer o fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol hefyd. Darllenwch ymlaen i ddarganfod sut mae Katy Hawkins, Arweinydd Cymunedol gyda’r sefydliad nid er elw Birmingham TreePeople, yn helpu i dyfu’r manteision hyn trwy blannu coed gyda chymunedau sydd eu hangen fwyaf ar draws y ddinas.