Adnoddau er mwyn helpu i ddod â byd natur i bob cymdogaeth

Edrychwch ar bigion y llyfrgell o dystiolaeth, astudiaethau achos, arweiniad ac arbenigedd diweddaraf i gynorthwyo awdurdodau lleol, sefydliadau cymunedol a’u partneriaid i arwain newid.

Gweld y llyfrgell adnoddau

©National Trust Images / Rebecca Hughes

Dechreuwch arni yn eich tref neu ddinas

Mae llawer o fuddion ynghlwm â dod â rhagor o fyd natur i ardaloedd trefol. Ond, yn ôl y dywediad, nid yw bod yn wyrdd yn hawdd.

Mae Trefi a Dinasoedd Byd Natur yn datblygu llyfrgell adnoddau i helpu awdurdodau lleol, partneriaid a sefydliadau cymunedol i gymryd camau i wella mannau gwyrdd.

Ewch draw i’n Llyfrgell Adnoddau i ddarganfod arweiniad, adnoddau ac arferion gorau gan bartneriaid arbenigol sydd tu ôl i’r rhaglen, ynghyd ag arbenigwyr y diwydiant ac arloeswyr y sector ledled y DU. Cofiwch ddychwelyd yn rheolaidd, gan y bydd y llyfrgell yn datblygu i gynnwys llawer mwy o straeon llwyddiant o leoedd fel eich un chi.

Neu sgroliwch i lawr i weld pigion yr adnoddau.

Dulliau i adfer byd natur sydd wedi ennill eu plwyf

Mae ein pecynnau ‘Sut i ddechrau ar...’ yn cynnig datrysiadau sydd wedi ennill eu plwyf i’r heriau sy’n wynebu ein sector.

Dechreuwch arni gyda...

Astudiaeth Achos

Canllaw

Dechreuwch arni gyda...

Canllaw cymunedol i bresgripsiynu cymdeithasol gwyrdd

21-10-2025

Clywch gan bobl sy'n cynnal gweithgareddau sy'n seiliedig ar fyd natur mewn mannau gwyrdd lleol i gefnogi gwell iechyd a llesiant.
Cymunedau, Iechyd a llesiant - Presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd

Dechreuwch arni gyda...

Astudiaeth Achos

Canllaw

Dechreuwch arni gyda...

Datgloi cyllid ar gyfer mannau gwyrdd a glas

12-02-2025

Darganfyddwch ffyrdd o adeiladu model ariannu mwy amrywiol ar gyfer mannau naturiol yn eich tref neu ddinas, i gefnogi lles, adfer byd natur a thwf economaidd.
Adfer natur, Ariannu a chyllid - Bancio cynefinoedd

Dechreuwch arni gyda...

Astudiaeth Achos

Dechreuwch arni gyda...

Canllaw tyfu bwyd cymunedol

13-10-2025

Gair gan y rhai sy’n gwybod sut i dyfu ynghylch beth sy’n creu bwyd da a’r teimlad da o fod ynghyd. Canllaw i dyfu bwyd cymunedol, gan ddechrau heb ddim.
Cymunedau - Tyfu cymunedol, Ymgysylltu cymunedol

Cwrdd â’r rheiny sy’n creu byd natur

Dysgwch yn uniongyrchol gan bobl sy’n darparu buddion i bobl a byd natur ledled y DU.

Dewch o hyd i awgrymiadau ardderchog a chipolygon gan bobl sy’n gweithio ledled y wlad mewn awdurdodau lleol a’u timau partner i wella mannau gwyrdd a glas. Enillwch wybodaeth am sut oresgynnon nhw heriau, o ddatblygu strategaethau lefel uchel i gyflawni newid ar y tir.

A person carrying a plant in a plastic pot.

©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / James Dobson

Adnoddau i ennill achrediad

Mae ein cynllun achredu yn cydnabod trefi a dinasoedd yn Lloegr sy’n rhoi buddion cyfartal i bobl a byd natur wrth wraidd eu cynlluniau.

Canllaw

Astudiaeth Achos

Canllaw

Cynllunio ar y cyd: dull partneriaeth

12-02-2025

Sut i weithio â phartneriaid i ddatblygu gweledigaeth strategol i fyd natur, mannau gwyrdd a chymunedau.
Achrediad - Ymgysylltu cymunedol
Group of people in natural area outside of a set of flats

Canllaw

Canllaw

Canllawiau’r Awdurdod Lleol i weithio mewn partneriaeth ar gyfer pobl a byd natur

24-06-2025

Mae byd natur a phobl yn tyfu’n gryfach drwy estyn i fyny ac allan. Datblygwch agwedd eich awdurdod lleol tuag at weithio mewn partneriaeth gyda’n canllawiau a phecyn cymorth i archwilwyr.
Achrediad, Gwirfoddoli - Sylfeini parciau, Ymgysylltu cymunedol
Volunteers moving soil into a wheelbarrow.

Gweminar

Gweminar

Dechrau ar eich taith achredu

01-04-2025

O’r archif - rhoddodd y weminar hon fanylion ar sut i ddechrau ar eich taith i ddod yn dref neu ddinas fyd natur drwy achrediad. Gwyliwch y recordiad a lawrlwythwch y cynnwys a rannwyd.
Achrediad
Two young people playing in a play area.

Pecyn cymorth Cyflymydd Coedwigoedd Trefol

Astudiaethau achos, canllawiau ac adnoddau er mwyn helpu i drawsnewid eich dull o gynllunio a rheoli coedwig drefol, gan gyflawni buddion teg i bobl a byd natur.

Mae canopi trefol mewn ardaloedd tir llwyd yn dirywio’n gyflym, sy’n golygu bod cymunedau ar draws y DU mewn risg o golli allan ar y buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy’n dod law yn llaw â choed mewn dinas.

Mae awdurdodau lleol mewn sefyllfa unigryw i helpu i ddadwneud y tuedd hwn. O uwch-gynllunio i degwch coed, allgymorth cymunedol i ariannu, mae popeth sydd ei angen arnoch chi ym mhecyn cymorth y Cyflymydd Coedwig Drefol.

A person running along a tree lined path in a park.

©National Trust Images / Paul Harris