Canllaw cymunedol i godi arian
19-03-2026
Canllaw
Astudiaeth Achos
©Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris
19-03-2026
Canllaw
Astudiaeth Achos
©Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris
Coed. Gwrychoedd. Dolydd. Pyllau. Seilwaith trefol hanfodol sy’n dod â buddion di-ri i bobl mewn cymdogaethau adeiledig ledled y DU.
Parciau, mannau gwyrdd a natur yw’r ffynhonnell fwyaf o falchder i bobl sy’n byw mewn trefi a dinasoedd, gyda llawer yn nodi cyfle i gysylltu â natur fel un o’r prif fuddion y maent yn eu cynnig.
Mae codi arian yn un ffordd y gall sefydliadau bach gysylltu mwy o bobl â’u mannau gwyrdd a glas lleol, ond gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau.
Mae’r canllaw hwn yn dwyn ynghyd uchafbwyntiau gweminarau a sleidiau o’r prosiect Cymdogaethau Natur. O roddion cyhoeddus i grantiau, mae’r siaradwyr yn rhoi trosolwg o beth yn union sydd dan sylw wrth godi arian, er mwyn helpu sefydliadau cymunedol i baratoi i ddod â mwy o natur adref.
Recordiwyd y gyfres hon yn 2024 ac fe’i darperir er gwybodaeth gyffredinol yn unig.
Darganfyddwch godi arian yn ei holl ffurfiau, o fathau i fodelau a ffrydiau.
Bu Helen Shone, Rheolwr Datblygu Codi Arian ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn siarad am wahanol ddulliau o godi arian, gan ganolbwyntio ar y rhai mwyaf perthnasol i elusennau bach neu grwpiau Cyfeillion. Mae’r uchafbwyntiau o’r weminar yn edrych ar beth sy’n gwneud cynnig codi arian da, a phwysigrwydd bod yn ‘barod i godi arian’.
©Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Steve Sayers
Dysgwch sut i gael hawl i arian o ffynonellau 'cyhoeddus' – a elwir hefyd yn grantiau statudol.
Yn y sesiwn hon, rhannodd Kelly Thomas, fel Rheolwr Grantiau Cenedlaethol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ei hawgrymiadau ar gyfer cael mynediad at grantiau statudol a gwybodaeth am rai o’u prif ffynonellau yn y DU. Edrychodd ar y meini prawf tebygol ar gyfer y mathau hyn o grantiau a sut i ddeall meddylfryd cyllidwyr posib er mwyn cryfhau eich cais.
©Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Sophie Bolesworth
Dysgwch beth sy'n debygol o apelio at ymddiriedolwr - a sut i feithrin perthnasoedd hirdymor gydag Ymddiriedolaethau a Sefydliadau.
Yn y sesiwn hon, edrychodd Laurinda Luffman, Pennaeth Ymddiriedolaethau a Sefydliadau yn yr RSPB, ar bwysigrwydd dod i adnabod y bobl y tu ôl i Ymddiriedolaeth neu Sefydliad. Trafododd sut i ‘werthu’ eich prosiect a chynigiodd enghreifftiau o gais ysgrifenedig.
©Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Sophie Bolesworth
Cyfle i gael barn o'r tu mewn ar sut i sicrhau rhoddion gan gwmnïau trwy weithgareddau codi arian corfforaethol.
Yn y sesiwn hon, mae Fay Jackson, fel Rheolwr Partneriaethau Ariannu yn y Co-op, a Catherine Marr, Uwch Reolwr Partneriaethau Corfforaethol yn yr RSPB, yn rhannu awgrymiadau ar yr hyn y gallai cwmnïau fod yn edrych amdano yn eu gweithgareddau codi arian corfforaethol.
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris
Darganfyddwch y cysyniad o 'ddefnydd cyfamser' - y syniad o wneud incwm o asedau fel mannau neu adeiladau.
Yn y sesiwn hon, rhannodd Casey Morrison, Ymgynghorydd Gwirfoddoli a Chyfranogi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, becyn cymorth ar gyfer ‘defnydd cyfamser’ wrth godi arian mewn mannau gwyrdd lleol. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys syniadau am weithgareddau ac enghreifftiau o sut i ddadansoddi eu heffaith bosibl gan ddefnyddio SWOT (Cryfder, Gwendid, Cyfle, a Bygythiad). Edrychodd hefyd ar fapio ‘effaith’ yn erbyn ‘ymarferoldeb’ i helpu i benderfynu a yw menter codi arian yn iawn i chi.
©Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / James Dobson
Dysgwch sut i helpu pobl i ddeall mewn ffordd gymhellol pam y gallent fod eisiau rhoi i'ch achos.
Yn y sesiwn hon, mae Rory Crawford, Rheolwr Prosiect ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn cynnig ffyrdd o ateb y cwestiwn allweddol: o’r holl straeon yn y byd, beth sy’n gwneud eich un chi yn unigryw? O osod y llwyfan i esbonio effaith a hanfodion fel costau ac amserlenni, edrychodd Rory ar sut i adeiladu achos dros gefnogaeth ariannol a rhannodd astudiaethau achos o leoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ysbrydoli eich rhai eich hun.
©Delweddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / James Dobson
Rhaglen bartneriaeth genedlaethol oedd Cymdogaethau Natur rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr RSPB a WWF, wedi'i hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a'r Co-op.
Syniad mawr y rhaglen oedd gweithio ochr yn ochr â 18 o sefydliadau cymunedol dros gyfnod o 2 flynedd, gan eu helpu i gyd-greu cynlluniau wedi’u pweru gan bobl ar gyfer natur yn eu cymdogaethau eu hunain.
Roedd pob cynllun cydweithredol wedi’i wreiddio’n gadarn ym mha bynnag gamau gweithredu dros natur a’r hinsawdd sydd bwysicaf i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yno. Ac fe gawson nhw eu gwireddu gyda chyllid, cefnogaeth a hyfforddiant Cymdogaethau Natur.