Prosiectau a rhaglenni perthnasol
Mae Trefi a Dinasoedd Natur yn dod â chyfoeth o wybodaeth, profiad a sgiliau ynghyd sydd wedi’u meithrin gan brosiectau o’r un anian dros y blynyddoedd. Darganfyddwch fwy amdanyn nhw yma.
©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Annapurna Mellor
Gweledigaeth gyffredin
Mae Trefi a Dinasoedd Natur wedi tyfu o gasgliad o brosiectau a rhaglenni o’r un anian a weithiodd i ddod â natur a mannau gwyrdd i ardaloedd trefol er budd pawb.
Mae uchafbwyntiau o rai o’r prosiectau hyn bellach ar gael trwy Trefi a Dinasoedd Natur. Cymerwch olwg ar rai o’r adnoddau, yr offer a’r technegau y gwnaethon nhw eu dysgu a’u rhannu ar hyd y ffordd.
Future Parks Accelerator
Cydweithrediad oedd Future Parks Accelerator (FPA) rhwng Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Adran dros Godi’r Gwastad, Tai a Chymunedau (DLUHC) a redodd o 2019 i 2022.
Dewiswyd naw ardal ar draws y DU i fod yn rhan o’r rhaglen arloesol hon i adeiladu dyfodol cynaliadwy i barciau trefol a mannau gwyrdd.
Profodd FPA fod gan natur rôl hanfodol i’w chwarae mewn trefi a dinasoedd, gan helpu i wella iechyd a llesiant, lliniaru effaith newid hinsawdd, gwella bioamrywiaeth a thyfu’r economi werdd.
Gosododd y lleoedd arloesol hyn y sylfeini i filiynau mwy o bobl fwynhau amser ym myd natur yn agos i’w cartrefi trwy brosiectau yn y dyfodol fel Trefi a Dinasoedd Natur.
Uchafbwyntiau o Future Parks Accelerator
Fe rannodd lleoedd arloesol FPA eu dysgu a’u syniadau mewn cyfres o adnoddau.
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
Datgloi cyllid ar gyfer mannau gwyrdd a glas
12-02-2025
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
Astudiaeth Achos
Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur
Gwneuthurwyr natur: Simon Needle
10-03-2025
Canllaw
Canllaw
Canllaw dechrau cryno i wyrddio trefol
24-06-2025
Cymdogaethau Natur
Rhaglen bartneriaeth genedlaethol oedd Cymdogaethau Natur rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr RSPB a WWF a redodd o 2023 i 2026, wedi’i hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’r Co-op.
Syniad mawr y rhaglen oedd gweithio ochr yn ochr â 18 o sefydliadau cymunedol dros 2 flynedd, gan eu helpu i gyd-greu cynlluniau wedi’u pweru gan bobl ar gyfer natur yn eu cymdogaethau eu hunain.
Roedd pob cynllun cydweithredol wedi’i wreiddio’n gadarn ym mha bynnag gamau gweithredu dros natur a’r hinsawdd sydd bwysicaf i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yno. Ac fe gawson nhw eu gwireddu gyda chyllid, cefnogaeth a hyfforddiant Cymdogaethau Natur.
Uchafbwyntiau o Gymdogaethau Natur
Hyfforddiant a chanllawiau i sefydliadau cymunedol sy’n dymuno dod â natur i’w cymdogaethau.
Dechreuwch arni gyda...
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
Canllaw cymunedol i gyd-ddylunio
18-03-2026
Dechreuwch arni gyda...
Dechreuwch arni gyda...
Canllaw cymunedol i weithio gyda gwirfoddolwyr
20-03-2026
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Dechreuwch arni gyda...
Canllaw tyfu bwyd cymunedol
13-10-2025
Urban Forest Accelerator
Gweithiodd Urban Forest Accelerator i greu coedwigoedd trefol tecach yn ein trefi a’n dinasoedd.
Redodd y rhaglen tan 2025, mewn partneriaeth â’r Community Forest Trust a’r Woodland Trust, ac fe’i hariannwyd gan y Trees Call to Action Fund.
Datblygwyd y gronfa hon gan Defra mewn partneriaeth â’r Comisiwn Coedwigaeth ac fe’i cyflwynwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch arbennig i Gyngor Dinas Birmingham a Birmingham TreePeople.
Uchafbwyntiau o Urban Forest Accelerator
Ysbrydoliaeth, arweiniad ac offer i greu coedwigoedd trefol iach ac amrywiol i bawb.
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
Creu uwchgynllun coedwig drefol
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Astudiaeth Achos
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
Tyfu coedwig drefol deg
24-06-2025
Dechreuwch arni gyda...
Canllaw
Dechreuwch arni gyda...
Gwerth ac ariannu coedwig drefol
24-06-2025