Pan fydd natur gerllaw, dyddiau gwell a ddaw

Ein bwriad yw helpu miliynau yn rhagor o bobl i fwynhau amser ym myd natur ger eu cartrefi, mewn trefi a dinasoedd gwyrddach a llewyrchus.

A man in high-vis yellow waters a flowed bed. It's set in a built-up area, with a large sign listing local shops behind him

©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Annapurna Mellor

Mae Trefi a Dinasoedd Natur yn glymblaid o sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, sydd wedi ymrwymo i ddod â natur a mannau gwyrdd i ardaloedd trefol er budd pawb.

Bydd y cynllun ar y cyd yn helpu i roi byd natur, seilwaith gwyrdd a threftadaeth wrth wraidd penderfyniadau lleol, gan ganolbwyntio ar yr ardaloedd a fydd yn gweld y budd mwyaf. Dros y 10 mlynedd nesaf, ein nod yw helpu 5 miliwn yn rhagor o bobl i fwynhau mynediad gwell at fannau gwyrdd a glas yn agos i’w cartrefi, ac 1 miliwn yn rhagor o blant i allu chwarae ym myd natur ar garreg eu drws.

Mae hyn yn cynnwys bob math o natur trefol, a mannau glas a gwyrdd sydd o fewn cyrraedd rhwydd i’r cyhoedd. Er enghraifft, coed mewn strydoedd, mannau tyfu cymunedol, coed trefol, parciau cyhoeddus hanesyddol, glannau camlesi ac afonydd a meysydd chwarae.

A little boy in a blue top smiles as he reaches out to touch a white chicken egg. He's being helped out by lady with a halloween-themed headpiece

Y buddion ynghlwm â byd natur

Dros y degawd nesaf, rydym yn gobeithio gweithio gyda 100 o drefi a dinasoedd ledeled y DU, gan eu cefnogi i drawsnewid eu tirweddau trefol er budd pobl a natur.

Edrychwch pa drefi a dinasoedd sydd wedi cael grantiau i ddechrau arni, a pha leoedd sydd wedi dod yn Drefi a Dinasoedd Natur swyddogol, gan ddangos eu hymrwymiad i roi byd natur wrth wraidd dyfodol gwyrddach a llewyrchus.

Two people walking along a grassy path in a park surrounded by trees.

Buddion byd natur

Mae miliynau o bobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol heb fynediad hollbwysig at fyd natur a mannau gwyrdd yn agos i’w cartref. Ond mae tystiolaeth yn dangos fod y rhain yn ein gwneud yn iachach, hapusach, mwy cysylltiedig a mwy cadarn.

White illustration of a moth with heart shaped wings.

Pobl yn mwynhau'r awyr agored

Mae mwynhau amser mewn mannau gwyrdd a chysylltu â byd natur yn ein gwneud ni'n hapusach ac yn iachach. Yn enwedig y rhai ohonom sy'n byw mewn ardaloedd trefol a'r rhai ieuengaf yn y gymdeithas.

White illustration of a flower. The petals resemble houses.

Dod â chymunedau at ei gilydd

Gall mannau gwyrdd weithredu fel calon bywyd cymunedol, gan ddod â chymysgedd unigryw o bobl a lleoedd at ei gilydd. Mae mannau gwyrdd hyd yn oed yn fwy arbennig pan fydd cymunedau'n gallu eu llunio a gofalu amdanynt.

White illustration of a fish. The body resembles a drain grate.

Lleoedd cydnerth o ran yr hinsawdd

Drwy oeri strydoedd, glanhau'r aer neu amsugno glaw drwy arwynebau gwyrdd, meddal, gall seilwaith gwyrdd helpu i leihau effeithiau newid hinsawdd yn ein trefi a'n dinasoedd.

White illustration of a butterfly.

Lleoedd llewyrchus mae pobl yn ymfalchïo ynddynt

O barciau hanesyddol i erddi cymunedol, mae mannau gwyrdd a seilwaith naturiol yn rhoi cymeriad, diwylliant a threftadaeth i'n trefi a'n dinasoedd. Maent hefyd yn ffynhonnell o falchder lleol, yn creu lleoedd gwych i fyw, gweithio a buddsoddi ynddynt.

Cefnogi pobl a lleoedd

Mae pawb eisiau gweld trefi a dinasoedd gwyrddach, iachach, mwy cadarn a llewyrchus.

Beth bynnag fo’ch cefndir: llywodraeth leol neu fusnes, iechyd cyhoeddus neu gynllunio, gwirfoddolwr neu ddyngarwr, mae gan bawb ran i’w chwarae. Drwy ddod ynghyd i rannu syniadau ac arloesi, ffurfio partneriaethau newydd, datblygu cynlluniau uchelgeisiol, a denu buddsoddiad newydd, gallwn oll gyfrannu.

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael a sut y gallwch chi gymryd rhan.

Schoolchildren working in a garden with spades on a vegetable patch.

Adnoddau

Tarwch olwg ar yr ychwanegiadau diweddaraf i’n llyfrgell adnoddau. O ffyrdd a ddefnyddiwyd eisoes o drawsnewid eich tref neu ddinas, i astudiaethau achos llawn ysbrydoliaeth gan bobl a lleoedd sy’n cyflawni newid.

Dechreuwch arni gyda...

Astudiaeth Achos

Dechreuwch arni gyda...

Datblygwch rwydwaith ar gyfer gwirfoddolwyr mannau gwyrdd

23-02-2026

Sut mae pethau da' yn digwydd i bobl a natur pan mae awdurdodau lleol a grwpiau Cyfeillion yn rhoi eu pennau a'u calonnau at ei gilydd.
Cymunedau, Gwirfoddoli, Parciau - Cyfeillion grwpiau, Partneriaethau, Rhwydweithiau o wirfoddolwyr
Darllen yr adnodd
Darllen yr adnodd
A small group of people tend to a series of raised gardening beds in an urban-looking corner of Leeds. They're wearing bright yellow, orange and blue, making them almost as colourful as the flowers bobbing in the beds.

Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur

Astudiaeth Achos

Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur

Gwneuthurwyr natur: Danmore Sithole

10-07-2026

Nid natur yn unig sy'n ffynnu ar amrywiaeth – mae pobl hefyd. Darganfyddwch sut y tyfodd Theatr Mafwa ardd noddfa lle gall pawb deimlo'n gartrefol.
Cymunedau, Iechyd a llesiant - Cydraddoldeb amrywiaeth a chynhwysiant, Ymgysylltu cymunedol
Darllen yr adnodd
Darllen yr adnodd
A man waters plants in a bark-chipped flower bed. He looks to be standing in a shopping area, with signs for local shops behind him. Large tower blocks rise in the distance.

Canllaw

Astudiaeth Achos

Canllaw

Canllaw cymunedol i godi arian

19-03-2026

Ar eich marciau, barod, codi arian...sut y gall sefydliadau cymunedol fentro allan i'r byd codi arian.
Ariannu a chyllid, Cymunedau - Codi arian, Pecyn cymorth Cymdogaethau Natur
Darllen yr adnodd
Darllen yr adnodd
A person stands at the foot of a tree, facing away from the camera and looking up the tree trunk. He wears grey clothing.