Prosiectau a rhaglenni perthnasol

Mae Trefi a Dinasoedd Natur yn dod â chyfoeth o wybodaeth, profiad a sgiliau ynghyd sydd wedi’u meithrin gan brosiectau o’r un anian dros y blynyddoedd. Darganfyddwch fwy amdanyn nhw yma.

Three people stand in an area of greenery, engaged in conversation. The two women are wearing blue high-vis jackets, whilst the man stands in the centre with a black cap and t-shirt. They look to be in an urban garden, with a low wall, railings and building behind them.

©Delweddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Annapurna Mellor

Gweledigaeth gyffredin

Mae Trefi a Dinasoedd Natur wedi tyfu o gasgliad o brosiectau a rhaglenni o’r un anian a weithiodd i ddod â natur a mannau gwyrdd i ardaloedd trefol er budd pawb.

Mae uchafbwyntiau o rai o’r prosiectau hyn bellach ar gael trwy Trefi a Dinasoedd Natur. Cymerwch olwg ar rai o’r adnoddau, yr offer a’r technegau y gwnaethon nhw eu dysgu a’u rhannu ar hyd y ffordd.

Future Parks Accelerator

Cydweithrediad oedd Future Parks Accelerator (FPA) rhwng Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Adran dros Godi’r Gwastad, Tai a Chymunedau (DLUHC) a redodd o 2019 i 2022.

Dewiswyd naw ardal ar draws y DU i fod yn rhan o’r rhaglen arloesol hon i adeiladu dyfodol cynaliadwy i barciau trefol a mannau gwyrdd.

Profodd FPA fod gan natur rôl hanfodol i’w chwarae mewn trefi a dinasoedd, gan helpu i wella iechyd a llesiant, lliniaru effaith newid hinsawdd, gwella bioamrywiaeth a thyfu’r economi werdd.

Gosododd y lleoedd arloesol hyn y sylfeini i filiynau mwy o bobl fwynhau amser ym myd natur yn agos i’w cartrefi trwy brosiectau yn y dyfodol fel Trefi a Dinasoedd Natur.

Uchafbwyntiau o Future Parks Accelerator

Fe rannodd lleoedd arloesol FPA eu dysgu a’u syniadau mewn cyfres o adnoddau.

Dechreuwch arni gyda...

Astudiaeth Achos

Canllaw

Dechreuwch arni gyda...

Datgloi cyllid ar gyfer mannau gwyrdd a glas

12-02-2025

Darganfyddwch ffyrdd o adeiladu model ariannu mwy amrywiol ar gyfer mannau naturiol yn eich tref neu ddinas, i gefnogi lles, adfer byd natur a thwf economaidd.
Adfer natur, Ariannu a chyllid - Bancio cynefinoedd, Pecyn cymorth Cyflymydd Parciau’r Dyfodol
Darllen mwy
Darllen mwy

Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur

Astudiaeth Achos

Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr natur

Gwneuthurwyr natur: Simon Needle

10-03-2025

Mae gan Gyngor Dinas Birmingham weledigaeth am ddyfodol mwy strategol a mwy cysylltiedig i barciau, coed a seilwaith gwyrdd arall.
Adfer natur, Ariannu a chyllid, Cymunedau, Gwydnwch hinsawdd, Iechyd a llesiant - Coedwigaeth a choed, Pecyn cymorth Cyflymydd Parciau’r Dyfodol, Weledigaethu, Ymgysylltu cymunedol
Darllen mwy
Darllen mwy

Canllaw

Canllaw

Canllaw dechrau cryno i wyrddio trefol

24-06-2025

Cyfrinachau llwyddiant gwyrddio trefol yn ôl cynghorwyr lleol a’u partneriaid.
Adfer natur, Cymunedau, Gwirfoddoli, Gwydnwch hinsawdd, Iechyd a llesiant - Pecyn cymorth Cyflymydd Parciau’r Dyfodol, Sylfeini parciau, Ymgysylltu cymunedol
Darllen mwy
Darllen mwy

Cymdogaethau Natur

Rhaglen bartneriaeth genedlaethol oedd Cymdogaethau Natur rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr RSPB a WWF a redodd o 2023 i 2026, wedi’i hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’r Co-op.

Syniad mawr y rhaglen oedd gweithio ochr yn ochr â 18 o sefydliadau cymunedol dros 2 flynedd, gan eu helpu i gyd-greu cynlluniau wedi’u pweru gan bobl ar gyfer natur yn eu cymdogaethau eu hunain.

Roedd pob cynllun cydweithredol wedi’i wreiddio’n gadarn ym mha bynnag gamau gweithredu dros natur a’r hinsawdd sydd bwysicaf i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yno. Ac fe gawson nhw eu gwireddu gyda chyllid, cefnogaeth a hyfforddiant Cymdogaethau Natur.

Uchafbwyntiau o Gymdogaethau Natur

Hyfforddiant a chanllawiau i sefydliadau cymunedol sy’n dymuno dod â natur i’w cymdogaethau.

Dechreuwch arni gyda...

Canllaw

Dechreuwch arni gyda...

Canllaw cymunedol i gyd-ddylunio

18-03-2026

Dewch â chymdogaethau a natur ynghyd, gydag adnoddau ac awgrymiadau i osod pobl, planhigion a lleoedd lleol wrth y llyw.
Cymunedau - Cyd-ddylunio, Pecyn cymorth Cymdogaethau Natur, Weledigaethu, Ymgysylltu cymunedol
Darllen mwy
Darllen mwy

Dechreuwch arni gyda...

Dechreuwch arni gyda...

Canllaw cymunedol i weithio gyda gwirfoddolwyr

20-03-2026

Sut gall sefydliadau cymunedol weithio gyda gwirfoddolwyr lleol i greu cymdogaethau mwy gwyrdd, iach a hapus.
Cymunedau, Gwirfoddoli - Pecyn cymorth Cymdogaethau Natur
Darllen mwy
Darllen mwy

Dechreuwch arni gyda...

Astudiaeth Achos

Dechreuwch arni gyda...

Canllaw tyfu bwyd cymunedol

13-10-2025

Gair gan y rhai sy’n gwybod sut i dyfu ynghylch beth sy’n creu bwyd da a’r teimlad da o fod ynghyd. Canllaw i dyfu bwyd cymunedol, gan ddechrau heb ddim.
Cymunedau - Tyfu cymunedol, Ymgysylltu cymunedol
Darllen mwy
Darllen mwy

Urban Forest Accelerator

Gweithiodd Urban Forest Accelerator i greu coedwigoedd trefol tecach yn ein trefi a’n dinasoedd.

Redodd y rhaglen tan 2025, mewn partneriaeth â’r Community Forest Trust a’r Woodland Trust, ac fe’i hariannwyd gan y Trees Call to Action Fund.

Datblygwyd y gronfa hon gan Defra mewn partneriaeth â’r Comisiwn Coedwigaeth ac fe’i cyflwynwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch arbennig i Gyngor Dinas Birmingham a Birmingham TreePeople.

Uchafbwyntiau o Urban Forest Accelerator

Ysbrydoliaeth, arweiniad ac offer i greu coedwigoedd trefol iach ac amrywiol i bawb.

Dechreuwch arni gyda...

Astudiaeth Achos

Canllaw

Dechreuwch arni gyda...

Creu uwchgynllun coedwig drefol

24-06-2025

Astudiaethau achos ac adnoddau er mwyn helpu i drawsnewid eich agwedd tuag at gynllunio a rheoli coedwig drefol, gan ddarparu buddion teg i bobl a byd natur.
Adfer natur, Gwydnwch hinsawdd - Coedwigaeth a choed, Partnerships, The Urban Forest Accelerator Toolkit, Weledigaethu
Darllen mwy
Darllen mwy

Dechreuwch arni gyda...

Astudiaeth Achos

Canllaw

Dechreuwch arni gyda...

Tyfu coedwig drefol deg

24-06-2025

Ysbrydoliaeth, canllawiau ac adnoddau i ddatgloi buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol coedwigoedd trefol ar gyfer pawb, gan ddefnyddio egwyddor tegwch coed.
Adfer natur, Cymunedau, Gwirfoddoli, Gwydnwch hinsawdd, Iechyd a llesiant - Coedwigaeth a choed, The Urban Forest Accelerator Toolkit, Ymgysylltu cymunedol
Darllen mwy
Darllen mwy

Dechreuwch arni gyda...

Canllaw

Dechreuwch arni gyda...

Gwerth ac ariannu coedwig drefol

24-06-2025

Eich canllaw i ddangos gwir werth coed yn eich tref neu ddinas a denu ariannu sy’n cefnogi cynnal a thwf tymor hir.
Adfer natur, Ariannu a chyllid - Coedwigaeth a choed, The Urban Forest Accelerator Toolkit
Darllen mwy
Darllen mwy